Professor John Wyn Owen

Etholwyd: 2010 Cymrodyr Cychwynnol

Maes/ Meysydd: Diwydiant, Masnach, y Celfyddydau a Phroffesiynau

Pwnc/ Pynciau Arbenigol:

Trysorydd y Gymdeithas 2012 – 2018

Cadeirydd Pwyllgor Diogelu Iechyd Cymru, Dirprwy Gadeirydd Fforwm Iechyd y Deyrnas Unedig; Cymrawd Athrofaol RSPH ac Athro Coleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe; ac aelod o Gyngor Gweinyddol Coleg Ewrop Sefydliad Madariaga; Dirprwy Athro Iechyd Cyhoeddus, Prifysgol Sydney; yn flaenorol Cyfarwyddwr, GIG Cymru.

Ysgrifennwyd yr ysgrif goffa ganlynol gan Syr Emyr Jones Parry:

Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn fudd cenedlaethol hanfodol. Ond i sicrhau cynaladwyedd iechyd mae angen amgylchedd sy’n cynnal ac yn gwella iechyd dynol a llesiant cymdeithasol ac sy’n cydnabod y cysylltiad rhwng iechyd dynol, planhigion ac anifeiliaid. Mae’r heriau’n fyd-eang. Fel sydd mor amlwg gyda Coronafeirws, daw’r rhain o glefydau heintus, ymwrthedd i wrthfiotigau, clefydau pandemig a rhywogaethau ymwthiol. Mae’r ffactorau critigol, rhyng-gysylltiedig yn cynnwys bwyd a chynhyrchu bwyd, ansawdd aer a dŵr, newid yn yr hinsawdd ac ymddygiad dynol.

Bu John Wyn Owen yn hyrwyddo’r materion hyn ar hyd ei oes. Roedd ei agwedd yn cyfuno’r budd cymdeithasol a’r cyd-destun rhyngwladol. Cafodd yrfa helaeth yn y sectorau cyhoeddus, preifat ac elusennol yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

Ar ôl graddio, dechreuodd Owen weithio yn Ysbyty St Thomas yn Llundain cyn cael ei benodi’n Bennaeth GIG Cymru ym 1985. Dan ei arweinyddiaeth am naw mlynedd, arloesodd GIG Cymru gysyniad “cynnydd mewn iechyd” gan arwain y DU gyda system cynllunio a chyflenwi iechyd integredig oedd yn ystyried effaith poblogaethau oedd yn heneiddio, ansicrwydd economaidd, mudo a mwy ar hanfodion iechyd.

Ym 1993, penodwyd Owen yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Adran Iechyd Talaith New South Wales. Arweiniodd ei lwyddiant at Gadeiryddiaeth pwyllgor Ffederal yn darparu arweiniad cenedlaethol, a chyfrifoldeb am y drefn iechyd i gefnogi Gemau Olympaidd Sydney yn 2000.

Ym 1997 dychwelodd i’r Deyrnas Unedig yn Ysgrifennydd Ymddirieolaeth Nuffield. Dan ei stiwardiaeth, bu Nuffield yn canolbwyntio ar ymchwil iechyd ac arloesi, gan alluogi gwell prosesau penderfynu, ac ar oblygiadau datganoli.

Ganwyd John Wyn Owen ym Mangor, fe’i haddysgwyd yn Ysgol Friar’s ac yna yng Ngholeg Sant Ioan yng Nghaergrawnt. Roedd Owen yn trysori ac yn cynnal ei gysylltiad â’r Coleg.

Roedd Owen yn Gymro dwyieithog balch, gydag ymrwymiad diffuant i iechyd cyhoeddus. Roedd ganddo weledigaeth ond roedd hefyd yn ymarferol wrth gyflenwi gofal iechyd, ac yn hynod ymwybodol o’r dimensiwn rhyngwladol. Ar ôl ymddeol yng Nghymru doedd dim gorffwys. Parhaodd i wneud cyfraniadau rhagorol ym meysydd addysg ac iechyd cyhoeddus. Roedd yn aelod o Gomisiwn Bevan ac yn gymrawd sefydlu Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Roedd yn ŵr cwrtais a thawel ei fynegiant oedd bob amser â chyfraniad sylweddol i’w wneud. Derbyniodd lawer o anrhydeddau rhyngwladol a’r CB ym 1994.

Ym 1967 priododd Elizabeth Ann (nee Macfarlane).  Cawsant un mab, Dafydd, a merch, Sian. Doedd dim byd yn rhoi mwy o bleser i John na threulio amser gyda’i deulu a’i wyrion.

John Wyn Owen, arbenigwr iechyd cyhoeddus, ganwyd 15 Mai 1942, bu farw o ganser ar 1 Chwefror 2020.


Ni chyfrannodd neb fwy i Gymru mewn cynifer o ffyrdd. Roedd ymroddiad yr Athro Owen i’r genedl, i iechyd cyhoeddus, i addysg, i fynd i’r afael â heriau byd-eang yn eithriadol. Roedd yn gyfuniad unigryw o arbenigedd, doethineb a gweledigaeth ac yn ffynhonnell syniadau cadarnhaol. Bu hefyd yn gwasanaethu’r Gymdeithas fel aelod o’n Cyngor a Thrysorydd.

Gweledigaeth yr Athro Owen ar gyfer ymagwedd ‘Un Iechyd’ – ystyried iechyd dynol, anifeiliaid a’r amgylchedd gyda’i gilydd – oedd y sbardun ar gyfer llawer o’i waith diweddar gyda’r Gymdeithas. Bu’n fraint i ni gydweithio gydag ef i gyflwyno’r digwyddiad “Un Iechyd Cymru” cyntaf yn 2019, ac fe wnawn bopeth yn ein gallu i barau â gwaith yn y maes hwn er anrhydedd iddo. Caiff teyrnged lawn ei chyhoeddi maes o law.