Syr Karl Jenkins

Etholwyd: 2022

Maes/ Meysydd: Diwydiant, Masnach, y Celfyddydau a Phroffesiynau

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Cerddoriaeth

Mae Syr Karl Jenkins yn gyfansoddwr cerddorol o fri rhyngwladol. Yr agwedd fwyaf nodedig ar ei gerddoriaeth, wedi’i nodweddu gan y ffenomenon “traws-genre” byd-eang Adiemus, yw ei ansawdd arloesol a’i wreiddioldeb llwyr. Mae ei weithiau eraill yn cynnwys Palladio, y darn poblogaidd ar gyfer cerddorfa llinynnau, a Cantata Memoria (a gyfansoddwyd ar gyfer 50 mlynedd ers trychineb Aberfan). Efallai mai The Armed Man: A Mass for Peace yw ei waith mwyaf adnabyddus, sy’n agosáu at 3000 o berfformiadau ers iddo gael ei ddangos am y tro cyntaf yn y flwyddyn 2000. Ymhlith nifer o wobrau eraill ar draws y byd, cafodd ei urddo’n farchog yn rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines yn 2015.