Dr Layla Jader

Etholwyd: 2022

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Genomeg, Iechyd y Cyhoedd

Wedi ymddeol. Cyn Ymgynghorydd mewn Genomeg Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Graddiodd Layla o Ysgol Feddygol Baghdad, a dechreuodd ei hastudiaethau ôl-raddedig yn y DU o 1978 ymlaen. Roedd ei gyrfa’n rhychwantu dros 37 mlynedd yn GIG Cymru ac yn y byd academaidd, cyn iddi ymddeol yn 2016. Daeth yn gymrawd ymchwil clinigol mewn ffibrosis systig yn y Sefydliad Geneteg Feddygol, a arweiniodd at thesis MD ym 1991. Yna, cafodd ei hyfforddi a’i chymhwyso mewn meddygaeth iechyd y cyhoedd, ac fe’i penodwyd yn Uwch Ddarlithydd Clinigol mewn Geneteg Iechyd y Cyhoedd yng Nghaerdydd, y swydd gyntaf o’i fath yn y wlad ym 1999.  Mae’r yrfa flaengar unigryw hon mewn Genomeg Iechyd y Cyhoedd yn seiliedig ar drosi canfyddiadau ymchwil genetig yn rhaglenni a pholisïau Iechyd y Cyhoedd.

Arweiniodd dîm a enillodd 3 Gwobr Golden Helix, ac fe ddaeth hi’n ail yng Ngwobr Doctor a Doctor Ysbyty y Flwyddyn mewn Arloesedd yn 2001. Mae’r strategaeth arloesol hon ar gyfer y rhaglen sgrinio cyn-geni yn gosod safonau ac yn dylanwadu ar raglenni yn y DU.  Sefydlodd y Gronfa Frequency of Inherited Disorders Database hefyd, ac arloesi genomeg iechyd y cyhoedd yn y DU.   Roedd hi’n un o sylfaenwyr y Gymdeithas Polisi Genomeg ac Iechyd y Boblogaeth, a daeth yn llywydd rhwng 2008 a 2012. Sefydlodd a threfnodd nifer o gyrsiau a symposia cenedlaethol mewn genomeg dros y blynyddoedd ar gyfer gwahanol grwpiau gweithwyr iechyd proffesiynol a llunwyr polisi.  Bu’n gadeirydd Grŵp Cynghori Proffesiynol Clefyd y Crymangelloedd a Thalasaemia yng Nghymru hefyd.

Gan sylweddoli eu goblygiadau i Iechyd y Cyhoedd, astudiodd ganfyddiadau gwyddonol epigenetig yn eang.  Sylweddolodd yn gyflym ar bwysigrwydd dylanwad traws-genhedlaeth y ffactorau amgylcheddol ehangach wrth iddynt ryngweithio â’r genom gan effeithio ar ffetws a phlant, a dylanwadu ar eu hiechyd eu hunain a’u plant a’u hwyrion.  Ysgrifennodd adroddiad a phapur BMJ, ac ymgyrchodd i ddylanwadu ar lunwyr polisi a chynghorwyr i Lywodraeth Cymru am y canfyddiadau sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd rhoi’r flaenoriaeth uchaf i iechyd plant.

Cyhoeddodd bapur BMJ hefyd yn 2006, yn dadlau y dylai’r GIG fod hyd braich oddi wrth reolaeth uniongyrchol y llywodraeth, ac y dylai gael ei redeg gan gorff amlddisgyblaethol etholedig gan gynnwys gweithwyr proffesiynol y GIG, ASau/ACau a chynrychiolwyr cleifion.  Cafodd gefnogaeth fawr gan sefydliadau proffesiynol a cholegau brenhinol, a sylw eang yn y wasg.

Cafodd ei gwaith ei gydnabod drwy Wobr Cyflawniad Oes gan Gymdeithas Cyrhaeddiad Menywod o Leiafrifoedd Ethnig Cymru am ei gwaith rhagorol mewn Genomeg Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru yn 2017.