Yr Athro Liana Cipcigan
Athro; Arweinydd y thema ymchwil drawsbynciol, Trafnidiaeth Gynaliadwy, yn yr Ysgol Beirianneg; Arweinydd Electric Vehicle Centre of Excellence , Prifysgol Caerdydd.
Mae’r Athro Cipcigan yn chwarae rhan arweiniol yn y broses o ddatgarboneiddio trafnidiaeth drwy drydaneiddio a gridiau clyfar, yn arbennig drwy arwain y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Cerbydau Trydan ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r Athro Cipcigan hefyd yn eiriolwr cryf o blaid Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Chynhwysiant, ac fel aelod o Menywod Entrepreneuraidd ym maes Ynni Adnewyddadwy, mae hi’n chwarae rhan bwysig er mwyn hyrwyddo menywod ym maes peirianneg.