Yr Athro Mary McAleese
MRIA FRCS FRCA FRCP FRSA FRSE FRCM HonFLSW
Gwasanaethodd yr Athro Mary McAleese fel wythfed Arlywydd Iwerddon rhwng 1997 a 2011, y cyntaf o Ogledd Iwerddon. Yn dilyn ei chyfnod yn Arlywydd, aeth McAleese ymlaen i wneud Doethuriaeth mewn Cyfraith Ganon o Brifysgol Gregorian, Rhufain. Yn 2016, ymunodd â Phrifysgol St Mary’s, Twickenham fel Athro Nodedig mewn Astudiaethau Gwyddelig ac mae’n cwblhau Doethuriaeth mewn Hawliau Plant mewn Cyfraith Ganon ym Mhrifysgol Gregorian.
Ymhlith swyddi blaenorol eraill McAleese mae: Dirprwy Is-Ganghellor, Prifysgol Queen’s Belfast; Cyfarwyddwr y Sefydliad Astudiaethau Cyfreithiol Proffesiynol; Athro Reid mewn Cyfraith Droseddol, Troseddeg a Phenydeg, Coleg y Drindod Dulyn.