Yr Athro Meena Upadhyaya

Etholwyd: 2018

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Geneteg, Meddygaeth

Cymrawd Er Anrhydedd, Prifysgol Cymru: y Drindod Dewi Sant; Athro Nodedig (Anrh) Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, Athrofa Geneteg Feddygol

Derbyniodd yr Athro Meena Upadhyaya OBE ei gradd Ph.D. o Brifysgol Caerdydd a chwblhaodd gymrodoriaeth gyda Choleg Brenhinol y Patholegwyr (RCPath) yn 2000.

Roedd yn Athro yn Sefydliad Geneteg Canser Prifysgol Caerdydd a chyfarwyddodd Labordy Ymchwil a Datblygu Gwasanaeth Geneteg Cymru Gyfan fel Genetegydd Moleciwlaidd Ymgynghorol tan iddi ymddeol yn 2014.  Roedd ei gyrfa ymchwil yn canolbwyntio ar lawer o anhwylderau genetig, yn enwedig niwroffibromatosis math I (NF1) a dystroffi’r cyhyrau ffacioscapwlohwmeraidd. Fel Athro, hyfforddodd a mentorodd lawer o fyfyrwyr a gwyddonwyr yn ystod ei gyrfa. Fel ymchwilydd a gwyddonydd, mae wedi gwneud darganfyddiadau arloesol ac yn awdur dros 200 o erthyglau a 3 chyfrol wyddonol. Mae Meena wedi derbyn llawer o anrhydeddau yn cynnwys Gwobr Inspire Cymru (2010), Gwobr Cymdeithas Niwroffibromatosis Ewrop (2013), OBE (2016), a Gwobr Dewi Sant am Arloesi, Gwyddoniaeth a Thechnoleg (2017).

Ers iddi ymddeol, mae Meena wedi bod yn Athro Nodedig Er Anrhydedd yn Isadran Canser a Geneteg Prifysgol Caerdydd, ac mae wedi cynrychioli Prifysgol Caerdydd mewn llawer o gyfarfodydd rhyngwladol. Dyfarnwyd Cymrodoriaeth Er Anrhydedd iddi gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn 2017, Cymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2018 ac fe’i hetholwyd yn Aelod o Gyngor RCPath yn 2014 a Chymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2020. Bu Meena hefyd yn gwasanaethu fel mentor ar gynllun Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus y Fonesig Rosemary Butler (2014-2015).

Mae Meena’n eiriolwr cryf dros hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth, cydlyniad cymunedol ac integreiddio. Sefydlodd Wobrau Cyflawniad Menywod Asiaidd Cymru a elwir bellach yn Gymdeithas Cyflawniad Menywod Cymru o Leiafrifoedd Ethnig (EMWWAA) a Menywod o Leiafrifoedd Ethnig mewn Gofal Iechyd yng Nghymru (EMWWH). Mae’n ymddiriedolwr Race Equality First, Cyngor Hil Cymru, Cymdeithas NF Ewrop, ac yn aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Rhwydwaith Staff BME+ Prifysgol Caerdydd, Purple Plaque, a Merched Mawreddog Cymru. Penodwyd Meena yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar Fwrdd Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru (2020).