Professor Meic Stephens

Etholwyd: 2016

Maes/ Meysydd: Diwydiant, Masnach, y Celfyddydau a Phroffesiynau, Dyniaethau, Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Llên Saesneg Cymru, Llenyddiaeth Gymraeg

Cofio Meic Stephens

1938-2018

‘Iaith carreg fedd’ oedd y Gymraeg i Michael Stephens yn hafau ei arddegau pan fyddai’n gweithio fel torrwr beddau yn ei Drefforest enedigol. Ymhen amser fe drodd Michael yn Meic, a’r iaith ‘yn iaith carreg fy aelwyd’. Disgrifiodd ei hun yn un o blant ‘y Gymru ddiwydiannol, Saesneg ei hiaith ond Gymreigaidd ei chymeriad … a mab y dosbarth gweithiol’. Yn ei fywyd a’i waith fe gyplysodd y profiad dosbarth gweithiol hwnnw â Chymreictod ieithyddol drwy ddysgu’r iaith, barddoni ynddi a magu

deg o wyrion ac wyresau … ac mae pob un yn medru’r Gymraeg – fel y gwyddom pan ddônt i Flaen-bedw i ginio dydd Sul a raliganto o gwmpas y tŷ a’r ardd wedyn. Nage pob dysgwr sy’n gallu bragaldian cymaint â hynny; nage pob Cymro iaith gyntaf ‘chwaith.

Ond er iddo chwarae rhan yn ymgyrchoedd cynnar Cymdeithas yr Iaith, er iddo feithrin diddordeb mewn ieithoedd lleiafrifol, codi teulu o Gymry Cymraeg, ac atgyfodi’r Wenhwyseg fel iaith lenyddol yn ei gerddi diweddar, fe ddisgrifiodd ei safbwynt sylfaenol fel hyn:

Do’n ni ddim am roi fy holl egni i frwydr yr iaith tra bod y frwydr boliticaidd heb ei hennill. Do’n ni ddim yn cytuno â dadansoddiad Saunders Lewis, er fy mod yn croesawu ei sialens i hyrwyddo’r iaith drwy weithredu’n uniongyrchol. Ro’dd statws swyddogol yn amcan dilys yn fy nhyb i, ond nid fy musnes i o’dd brwydro drosto. Mwy priodol, yn fy marn i, o’dd bod y Cymry Cymraeg, yn enwedig y rhai a drigai yn yr ardaloedd gwledig a Chymraeg eu hiaith, yn deffro o’u trwmgwsg ac yn ymdrechu dros eu diwylliant eu hunain. Ro’dd yn well ‘da fi weithio yn erbyn y Blaid Lafur yn yr ardaloedd diwydiannol. Hwyrach fod hyn yn wrthun i lawer sy’n darllen y llyfr hwn ond mae ‘na derfyn faint y mae dyn yn gallu ei gyflawni a do’th yw rhannu’r gwaith a chanolbwyntio yn hytrach na brwydro ar sawl ffrynt.

Synhwyrai berygl i’r diwylliant Cymraeg pe gwelid twf Cymreictod hunanhyderus ac iddo ddim lle na pharch i’r Gymraeg. Pwysigrwydd cyfraniad Meic Stephens oedd iddo sicrhau llais diwylliannol nodweddiadol Gymreig i’r di-Gymraeg – yn ogystal â chefnogi a rhoddi lle canolog i’r iaith Gymraeg yn niwylliant y genedl.

Aeth neb ati yn fwy diwyd nag ef i greu’r fframweithiau sefydliadol ar gyfer cyhoeddi, astudio a pharchu diwylliannau llenyddol Cymru. Fel awdur, golygydd ac ysgutor sawl llenor, gweithiodd yn ddiflino i sefydlu a sicrhau parhad bywyd llenyddol ein gwlad, yn arbennig felly yn y Saesneg. Mae yna dalpiau pwysig o hanes diwylliannol Cymru yn ei ysgrifau hunangofiannol: sefydlu’r Academi Gymreig, a’i hadain Saesneg; creu Cyngor y Celfyddydau a fframwaith ar gyfer ariannu llên yng Nghymru; gwleidyddiaeth fewnol sefydliadau diwylliannol Cymru; cychwyn a pharhad Poetry Wales; methiant y cyfnodolyn Arcade; llwyddiant Planet; golygu’r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru a’r fersiwn Saesneg, ac yn y blaen, ac yn y blaen.

Cadwai un llygad ar y byd gwleidyddol hefyd, gan sefyll dros Plaid Cymru ym Merthyr yn etholiad cyffredinol 1966. Bu’n ffigwr canolog ym mwrlwm gweithgaredd gwleidyddol a diwylliannol y Blaid ym Merthyr yn y chwedegau, gweithgaredd a arweiniodd maes o law at reolaeth o’r cyngor yn 1977. Mae’n anodd credu nad oes gan y Blaid yr un cynghorydd ym Merthyr heddiw. Mynegodd obaith yn ei hunangofiant y byddai arweiniad Leanne Wood yn newid pethau, ond cyfaddefodd mai pwdr oedd y Blaid yng Ngogledd Caerdydd lle bu’n byw ers y saithdegau, er bod ei wraig ofalgar Ruth yn parhau yn hynod weithgar. ‘Cymry Cymraeg o’r dosbarth canol proffesiynol sydd yn perthyn i’r Blaid ar gownt yr iaith yn bennaf’ nododd ac meddai ‘Dyw cynnal garddwest flynyddol ddim yn gyfystyr â gwleidydda yn fy marn i.’ Nid dyn yr arddwest oedd Meic Stephens ond un i dorchi llewys a chael y maen i’r wal. Bydd bywyd Cymru yn dlotach o dipyn heb ei brofiad dwfn, ei frwdfrydedd heintus a’i gymeriad cynnes.

Daw’r dyfyniadau o Cofnodion gan Meic Stephens (Y Lolfa, 2012).

Ymddangosodd y darn hwn gyntaf yn O’r Pedwar Gwynt: https://pedwargwynt.cymru/dadansoddi/gol/cofio-meic-stephens-1938-2018

Yr Athro Daniel G Williams FLSW