Yr Athro Nigel Brown

Etholwyd: 2023

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Microbioleg Moleciwlaidd

Wedi Ymddeol; Athro Emeritws Microbioleg Foleciwlaidd, Prifysgol Caeredin.

Biolegydd moleciwlaidd yw’r Athro Brown, sydd hefyd yn arbenigo mewn ymwrthedd metel i facteria. Bu cynnydd ym mhwysigrwydd agweddau arall ei waith yn ystod Rhyfel y Gwlff wrth asesu’r risg y gallai anthracs gael ei ryddhau fel bioarf. Mae’n ffigur dylanwadol ym maes gwyddoniaeth yn y DU yn sgil ei rolau arweinyddol mewn prifysgolion yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, yn ogystal â’i rôl gyfredol fel aelod o banel Sêr Cymru II.