Yr Athro Noel Lloyd

Etholwyd: 2011

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Mathemateg

Yn flaenorol: Is-Ganghellor ac Athro Mathemateg, Prifysgol Aberystwyth.

 

Yr Athro Noel G Lloyd: 1946 – 2019

Ganwyd Noel yn Llanelli, Sir Gâr. Ar ôl bod yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Llanelli, lle’r oedd ei dad yn athro mathemateg, enillodd Ysgoloriaeth Fynediad i Goleg Queens’, Caergrawnt yn 1965. Graddiodd a bwrw ymlaen i weithio am Ddoethuriaeth, ym maes hafaliadau differol cyffredin dan arolygaeth Peter Swinnerton-Dyer. Roedd ei draethawd ymchwil, ymhlith pethau eraill, yn ymdrin â hafaliad Van der Pol na chafodd ei ystyried gan yr enwog J. E. Littlewood. Yn ogystal â nifer o wobrau coleg fe ddyfarnwyd iddo’r Wobr Raleigh nodedig. Symudodd ymlaen i fod yn Gymrawd Ymchwil yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt.

Ar ôl dwy flynedd yn y swydd honno, cafodd ei ddenu i ymgymryd â Darlithyddiaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth fel yr oedd ar y pryd, a dechreuodd yn y swydd honno ar 1af Ionawr 1975. Nid oedd angen fawr o berswad, roedd wedi mynegi dymuniad ers tro byd i gael dod i alma mater ei dad. Bu hwn yn gyfnod ffyniannus i’w ymchwil ym maes analysis cymhwysol neu analysys an-linol. Sefydlodd ysgol gref yn y maes hwnnw gan arolygu nifer o fyfyrwyr PhD da. Ymhlith nifer o gyhoeddiadau yn y cyfnod oedd ei lyfr Degree Theory yn y gyfres Cambridge Tracts in Mathematics; cafodd y llyfr hwn dderbyniad arbennig o dda a datblbygodd yn werslyfr sefydledig. Yn yr 1980au symudodd ei ddiddordeb tuag at astudio 16eg Problem Hilbert ar y cyfanswm a lleoloiad o systemau polynomial yn y plân.  Maes a gydnabyddir yn faes ymchwil hynod ddyrys. Cydnabyddir yn rhyngwladol fod y gwaith a wnaed ganddo ef a’i grŵp ymchwil yn gyfrifol am ddatblygiadau sylweddol, a teimlir colled fawr ar ei ôl ymysg ymchwilwyr eraill yn yr un maes. Roedd y cynnydd a wnaethant yn y maes yn gwneud defnydd newydd o algebra cyfrifiadurol, yn ogystal a technegau analiticaidd.

Ar ddechrau’r 1980au, derbyniodd ef a’r Athro Des Evans o Brifysgol Caerdydd grantiau sylweddol gan y Cyngor Ymchwil Gwyddoniaeth a Pheirianneg (SERC) i drefnu cyfres o gynadleddau mawr Ewropeaidd ar Hafaliadau Differol yng nghanolfan Prifysgol Cymru yng Ngregynog. Arweiniodd hyn at ei benodi ar Bwyllgor Mathemateg SERC lle daeth ei wybodaeth fanwl a’i degwch trwyadl yn amlwg. Hefyd, o 1986-1990, bu’r ddau ohonom yn Gyd -Olygyddion ar y cyfnodolyn  Journal of the London Mathematical Society – cyfnod dramatig i’r cyfnodolyn gyda’r rheidrwydd dros nos i drosglwyddo’r argraffu i Wasg Prifysgol Caergrawnt. Bu hefyd am gyfnod hir yn un o olygyddion pwnc y Mathematical Proceedings of the Cambridge Mathematical Society.

Cafodd ei ddyrchafu’n fuan yn Uwch Ddrlithydd, yn Ddarllenydd ac yna, yn 1986, i Gadair Bersonol. Am gyfnod byr bu’n Bennaeth yr Adran Mathemateg, yn Ddeon Cyfadran y Gwyddorau, yn Ddirprwy Is-Ganghellor, yn Gofrestrydd ac Ysgrifennydd, ac yn olaf, yn 2004, fe’i benodwyd yn Is-Ganghellor y Brifysgol. Bu yn y swydd honno gan roi gwasanaeth clodwiw ac ennill cryn glod, tan 2011. Yn 2010 cafodd CBE am ei wasanaeth i Addysg Uwch yng Nghymru ac yn 2011 fe’i wnaed yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Mae nifer y teyrngedau a dalwyd iddo ar ôl ei farwolaeth annhymig yn arwydd o’r parch oedd iddo fel Is-Ganghellor. Roedd yn drwyadl ei baratoadau, yn dawel gadarn ac yn deg. Ystyriwyd gan bawb ei fod yn hael a thosturiol, yn ddyn eithriadol ddidwyll. Uwch ben popeth, roedd yn hollol ymroddedig i’w Brifysgol. Yn ystod ei gyfnod yn Is-Ganghellor roedd hefyd yn Gadeirydd Addysg Uwch Cymru (HEA) ac yn Is-Lywydd Universities UK. Gwasanaethodd hefyd ar fwrdd Universities and College Employers Association (UCEA), gan gadeirio y Pwyllgor Iechyd a Diogelwch, ac hefyd ar fwrdd y Quality Assurance Agency (QAA), gan gadeirio’r Access Recognition and Licensing Committee.

Ar ôl iddo ymddeol, roedd galw mawr am ei ddoniau. Daeth yn aelod annibynnol o Gomisiwn Silk a sefydlwyd gan Lywodraeth y DU i edrych ar ddyfodol datganoli yng Nghymru. Gwasanaethodd hefyd yn aelod lleyg o’r Comisiwn Penodiadau Barnwrol. Am chwe blynedd bu’n Gadeirydd Masnach Deg Cymru.

Trwy gydol ei fywyd, bu ei argyhoeddiadau crefyddol yn ganolog i’w fywyd. Gwasanaethodd nid yn unig ei eglwys, ond ei enwad ac achosion crefyddol eraill lleol a chenedlaethol gyda bri. Roedd yn organydd rhagorol – fel y dywedwyd mewn un deyrnged, ymhle arall y gallai myfyrwyr weld eu His-Ganghellor yn ymlacio ar fore Sul trwy chwarae gwaith ei hoff gyfansoddwr, Bach, ar yr organ.

Priododd Noel a Dilys yn 1970, y flwyddyn nesaf byddant wedi dathlu eu priodas aur. Mae’n gadael Dilys a fu’n gymaint o gefn iddo dros y blynyddoedd a’i fab Hywel a’i ferch Carys a dwy wyres, Sioned a Catrin.

Gan Yr Athro Alun O Morris OBE FLSW