Yr Athro Peter Stead

Etholwyd: 2013

Maes/ Meysydd: Diwydiant, Masnach, y Celfyddydau a Phroffesiynau

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Hanes

1943-2026

Cadeirydd, Gwobr Llenyddiaeth Dylan Thomas ac Athro Ymweliadol, Prifysgol Morgannwg; cyn Uwch-ddarlithydd, Adran Hanes Prifysgol Abertawe

Bu farw’r hanesydd cymdeithasol a diwylliannol arloesol Peter Stead, yn sydyn o drawiad ar y galon ar 23 Mawrth 2026 yn wyth deg dwy oed. Roedd Peter yn gyfaill mynwesol imi ers inni gwrdd dros drigain mlynedd yn ôl. Treuliodd y rhan fwyaf o’i yrfa academaidd ym Mhrifysgol Abertawe lle ymunodd â’i Hadran Hanes fel myfyriwr israddedig yn 1961, gan ennill Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn 1964. Wedi hynny treuliodd gyfnod byr fel ymchwilydd graddedig o dan oruchwyliaeth Kenneth O. Morgan, cyn iddo ddod yn Ddarlithydd o 1966 nes ymddeol yn gynnar o’i swydd fel Uwch Ddarlithydd yn 1997. Mewn ffordd, dyma oedd yr agwedd fwyaf confensiynol ar ei fywyd proffesiynol – bywyd a amlinellwyd yn fuan gan erthyglau ysgolheigaidd coeth ar weithgarwch gwleidyddol Rhyddfrydwyr-Llafur yn Ne Cymru ddeinamig yr oes Edwardaidd. Fe’i diffiniwyd yn rheolaidd hefyd gan ei sgiliau eithriadol fel athro, a’r oruchwyliaeth empathig a ddangosai wrth roi arweiniad i gynifer o fyfyrwyr Meistr a Doethuriaeth.  Fodd bynnag, bryd hynny ac yn ddiweddarach, roedd cymaint mwy i’w ddeallusrwydd a’i bersonoliaeth. Roedd yn rebel carismatig, a dyna a wnaeth Peter yn un o’r ffigurau diwylliannol pwysicaf yng Nghymru yn ystod ei oes.

Ganed Peter Price Stead yn y Barri i Elvira (nee) Price o Faesteg a John Stead o Ferthyr ym mis Awst 1943. I ddechrau roedd yn byw, fel yr hoffai ddweud, mewn tŷ ar ben Stryd y Drindod, allt fwyaf serth y dref a oedd yn blaenu ar y môr, ac allt a fyddai’n ddiweddarach yn dod yn lleoliad adnabyddus ar Gavin and Stacey. Bu farw ei frawd iau, Norman, o’i flaen. Roedd ei leoliadau yn y gorffennol, gan gynnwys gwreiddiau hoff ei deulu yn Skibbereen, yn bwysig iawn i Peter ac yn dwysáu’r ymdeimlad o fod yn hwntw â chysylltiadau â phob rhan o Dde Cymru – rhywbeth y byddai’n manteisio arno bob amser). Roedd ei dad yn heddwas ac ar ei ffordd i fod yn brif arolygydd, ac felly’n symud i wasanaethu yn y trefi amrywiol y byddai ei fab yn eu hawlio iddo’i hun. Felly symudodd yn 1957 o’r Barri a’i Hysgol Ramadeg academaidd enwog i Dregŵyr a’i Hysgol Ramadeg ddiwylliannol nodedig, gan gamu i’r ochr gyda’r teulu i Bontypridd ac i Abertawe, lle byddai’n byw hyd weddill ei oes. Roedd yn mwynhau nodweddion neilltuol a natur gysylltiedig y byd hwn – y dosbarth  gweithiol diwydiannol, a byddai’n adlewyrchu hynny ym mhopeth a wnâi, wrth iddo fesur profiadau ffiniedig ond byd-eang y dosbarth hwnnw

Yn ei wychder, roedd Peter yn ddyn llawn egni a brwdfrydedd, ac wrth ei fodd yng nghwmni pobl. Ar adegau, roedd bron yn Rabelaisaidd o ran chwaeth ac archwaeth, yn gallu trechu cydweithwyr mwy swil neu orfanwl ond bob amser yn llawn cynhesrwydd a chyfeillgarwch. Roedd bod yn ei gwmni, mewn gemau rygbi yn St. Helens neu Barc yr Arfau neu yng nghlydwch y Bariau Salŵn cyfagos, yn golygu bod yng nghanol pethau, yn llawenydd y foment, ei hwyl a’i ysgafnder a’i gyfeillach. Ni welais mohono erioed yn wirioneddol ddigalon nac yn cwyno am fywyd – heblaw am gyfnod byr pe bai Cymru’n colli’n ofnadwy, neu ei annwyl Swans yn mynd ar gyfeiliorn. Yn wir, gwelai fan ei eni a’i fagwraeth, a’r dewis cydredol i ymlynu’n emosiynol ac yn ddeallusol wrth y fan honno, fel rhodd arbennig i’w mwynhau ac i fanteisio arni. Yn llythrennol, roedd yn meddiannu De Cymru yn ddaearyddol drwy symud yn ôl a blaen o drefi a dinasoedd yr arfordir i drefgorddau amrywiol ei dyffrynnoedd;  roedd yn ymfalchïo yn ei diwylliant perfformio, sêr disglair y llwyfan a byd opera, a’i medr ym myd chwaraeon, ei gwleidyddion trawsnewidiol a’i hawduron dadlennol; byddai’n dod i ddadansoddi ei phatrwm hanesyddol, ei chymhlethdod cyfannol, ac yn dirmygu unrhyw un o du hwnt i’w ffiniau a oedd yn creu gwawdluniau o’i phobl neu’n creu unrhyw chwedlau llwythol amgen; chwiliodd am arddull ysgrifennu a oedd yn glir a deallus wrth iddo egluro’r byd hwnnw iddo’i hun a’i gyhoeddi i’r byd cyfan, a chael hyd i’r arddull honno drosto’i hun.

Gallai ei ddawn i fod yn huawdl, i ddwyn i gof, ei ffraethineb craff a’i ymrwymiad i’r byd dinesig fod wedi ei dywys ar hyd llwybr amlwg – y llwybr i San Steffan. Roedd yn ymgyrchydd ifanc yn y Blaid Lafur ac yn amlwg ymhlith y dynion ifanc uchelgeisiol, a gwleidyddion y dyfodol o gyfnod Wilson/Callaghan, a oedd yn cymdeithasu yng Nghaerdydd. Bu’n addysgu dosbarthiadau addysg oedolion yn ddiflino drwy’r rhaglen sbardun a gynigiwyd gan Gymdeithas Addysg y Gweithwyr ac ysgrifennodd ei lyfr cyntaf, Coleg Harlech, yn 1976 fel teyrnged i’r hafan honno ar gyfer hunanddysgu. Gyda digon o amser o’i flaen, a gofynion swydd oedd yn ei foddhau, petrusodd ynghylch canlyn gyrfa wleidyddol a llithrodd  etholiadau y gallai fod wedi’u hennill heibio nes iddo gamu ymlaen yn 1979 i gystadlu am etholaeth y Barri, pan ddaeth Thatcher i rym. Ni cheisiodd eto. Ar yr ochr academaidd hefyd, symudai o hanes cymdeithasol a gwleidyddol traddodiadol i ymgysylltu â materion diwylliannol: yn enwedig Diwylliant Poblogaidd. Aeth agweddau Americanaidd y diwylliant hwnnw yn ddwfn i’w wythiennau ar ôl dwy flynedd ar wahân yn yr UD, y naill fel Ysgolor Fullbright yng Ngholeg Wellesley, Mass. yn 1973/4 a’r llall yn 1988/9 ym Mhrifysgol Gogledd Carolina, Wilmington. Byddai’r Cyrsiau Prifysgol y byddai nawr yn dewis eu cyflwyno yn Abertawe, a’r llyfrau y byddai’n eu hysgrifennu, yn adlewyrchu’r newid cyfeiriad hwn.

Daeth ei gyhoeddiad unigol pwysicaf yn 1989 gyda’r gyfrol Film and the Working Class a enillodd gryn ganmoliaeth. Arolwg dadansoddol treiddiol o Brif Ffilmiau a’u cynrychiolaeth gymharol o normau dosbarthiadau cymdeithasol. Ddwy flynedd yn ddiweddarach ysgrifennodd lyfr beirniadol a bywgraffyddol disglair am ei arwr personol o Bort Talbot, Richard Burton: So Much, So Little. Galarnad oedd y llyfr am greadigrwydd athrylithgar y dyn ei hun, i’r un graddau a’i ddawn fel actor. Ystyriai mai Burton oedd uchafbwynt De Cymru glasurol, a’i fod hefyd yn cynrychioli diflaniad yr oes honno. “Burton,” ysgrifennodd yn 2011, “oedd ein harweinydd coll. Diffiniodd yr awdurdod a’r hyder a ddylai fod yn sail i’n harweinyddiaeth wleidyddol a diwylliannol. Fel cenedl fe gollon ni gyfle.” Gallaf weld, wrth iddo feddwl am y llinell honno, ei ysgwyddau llydan fel plismon Efrog Newydd yn cynhyrfu a’i lygaid gwyrdd Gwyddelig yn culhau o dan aeliau wedi’u codi i herio unrhyw un a feiddiai anghytuno â’i fewnwelediad. I ddechrau roedd wedi bod yn gefnogwr brwd o blaid datganoli, ond fel cynifer o’i genhedlaeth dechreuodd weld y cynllun fel cerbyd a oedd wedi stolio, neu un oedd â gyrwyr cul eu meddwl nad oeddent yn edrych i’r naill ochr na’r llall – yn fwy llwythgarol na dawnus yn ei dyb ef. Daeth yn ddiamheuol eciwmenaidd o ran ei wleidyddiaeth ei hun.

Roedd gan Peter bob amser farn finiog, neu ddwy, a byddai’n eu rhannu’n fynych ac yn eglur, mewn nifer o fformatau ar Radio Wales; gwnaeth ffilmiau dogfen i BBC Cymru, yn enwedig un ar ffenomen Richard Llewellyn How Green Was My Valley fel llyfr a ffilm; roedd yn sylwebydd papur newydd a oedd yn procio’n ddeallus ynghylch materion y Gymru gyfoes ar y naill ochr a’r llall i’r Bont; a chyda’r diweddar newyddiadurwr Patrick Hannan wrth ei ochr, cymerodd ran a dod yn fuddugol mewn sawl blwyddyn yng nghwis Round Britain ar Radio 4. Ymddangosodd yn 1993 yng Ngŵyl Lenyddiaeth y Gelli Gandryll, gan oleuo’r babell â chyfweliad hynod o fanwl a bywiog ag ymgeisydd aflwyddiannus arall o’r Blaid Lafur, Dennis Potter, gan ddadlau yn ôl a blaen ynghylch rhinweddau Cymru a Lloegr neu, yn hytrach, rinweddau perthynol Fforest y Ddena a De Cymru o flaen cynulleidfa o bedwar cant, fel pe baent yn cymryd rhan mewn Gêm Ryngwladol. Efallai mai Gêm oedd hi. Roedd astudiaeth graff Peter o waith y dramodydd teledu gwych newydd ymddangos ar ffurf llyfr ac, fel arfer, nid oedd wedi petruso cyn cyhuddo Potter o fod yn anachronistig obsesiynol ynghylch arwyddion allanol a hen ffasiwn o ddosbarth cymdeithasol, ac o fod wedi’i greithio’n seicolegol gan ei wreiddiau ei hun: “I’r gorllewin mae Cymru, ac yn benodol maes glo De Cymru gyda’i draddodiadau mwy diweddar, mwy tanbaid ac, yn sicr, mwy gwaradwyddus ei hun o annibyniaeth filwriaethus, ond ni fydd unrhyw Fforestwr fyth eisiau hawlio brawdgarwch gwaed i’r cyfeiriad hwnnw…mae’r Fforestwyr yn Saeson, yn Seisnig mewn ffordd arbennig iawn…yn naturiol amheus o Gaerloyw a hyd yn oed yn fwy felly o Lundain, ac eto’n casáu gweld eu hystyfnigrwydd yn cael ei gysylltu mewn unrhyw ffordd â De Cymru. “Cael ein rheoli o Gaerdydd”, meddai Potter, oedd un o’r pethau yr oedd glowyr (Fforest y Ddena) yn ei gasáu am y safoni (o fewn Undeb Cenedlaethol y Glowyr) a ddaeth ar ôl 1948”. Poenus.

Ar ôl iddo gael ei ryddhau o waith academaidd yn Abertawe yn 1997, derbyniodd Peter gynnig am Gadair Allanol ym Mhrifysgol Morganwg. Yno bu’n ymgysylltu’n barhaus ac agored ag anghenion addysgol carfan a chenhedlaeth newydd o fyfyrwyr mewn cefnwlad oedd wedi cael ei hesgeuluso i’r gogledd o’r M4 – ac roedd hynny’n cael ei werthfawrogi’n amlwg. Pwysleisiodd wrthynt, yn union fel na allai Cymru gysyniadol ddisodli Cymru go iawn, ni allai dyfodol hyfyw ond bod yn seiliedig ar brofiad o hanes. Teimlai fod annibyniaeth o ran meddwl ac ysbryd yn nodwedd allweddol mewn cymdeithasau sifil ac iddynt hunan-werth. Byddai’n ymfalchïo’n fawr mewn cael ei ethol fel cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2013. Iddo ef, roedd y sefydliad yn enghraifft o egwyddorion siarad plaen â’u gwreiddiau mewn gwaith ysgolheigaidd tystiolaethol – rhywbeth yr oedd ar y Gymru ymrannol ei angen. Ni fu ei ddisgrifiad ohono’i hun erioed yn fwy cywir: “Selogwr. Digrifwr. Rhamantydd”. Roedd ei frwdfrydedd yn awchus a diddiwedd, o’r nofelau diweddaraf i’r teithiau pellaf posib y gallai ei wraig Elizabeth ac ef fentro arnynt (byddai cardiau post i ffrindiau yn eu hatgoffa’n fynych o’r mannau lle’r oeddent yn crwydro a’r bobl ddifyr y deuent ar eu traws); roedd ei hiwmor yn heintus, byth yn faleisus, yn ddosbarth meistr ar sut i edrych yn sylwgar ar y byd gyda choegni, fel mae ei ddisgrifiad annwyl o Rhodri Morgan fel “myfyriwr chweched dosbarth parhaol” sy’n ymdebygu i ‘Tigger’, yn ei ddangos; ac yn sicr cafodd ei hudo gan ochrgamau a goleuadau’r theatr, fel y dangosodd gydag asbri mewn nifer o draethodau a llyfrau wedi’u cyd-olygu am arwyr rygbi, sêr pêl-droed, cantorion opera, bocswyr ac, wrth gwrs, actorion Cymru. Mawlgan i’r actorion hynny oedd Acting Wales: Stars of Stage and Screen yn 2002. Efallai mai’r fuddugoliaeth fwyaf ym mywyd llawn a boddhaus yr Avatar hwn ar grwydr yn Ne Cymru oedd creu Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas i awduron ledled y byd o dan dri deg naw oed, sef oedran y bardd o Abertawe pan fu farw yn 1953. Wrth adrodd yr hanes, dywedodd ei fod ar wyliau yn Viareggio, Twsgani, yn 1994 pan ddaeth ar draws plac wrth grwydro ar hyd y traeth. Roedd y plac yn nodi amlosgiad Percy Bysshe Shelley, a foddodd yn y môr yn naw ar hugain oed yn 1822. Roedd yna hefyd Hysbysiad o Wobr am nofelau newydd, lle byddai’r awduron ar y rhestr fer yn dod i’r dref i roi darlleniadau. Bingo! Dychmygodd Peter sut y gallai rhywbeth tebyg, ond ehangach ac ar draws y genres llenyddol yr oedd Dylan wedi’u defnyddio, roi dinas Abertawe ar fap diwylliannol y byd. Cymerodd flynyddoedd o wenieithu a pherswâd i ganfod digon o nawdd i lansio’r Wobr, fel yr un fwyaf o’i math yn y byd yn 2005, gyda Peter yn Gadeirydd cyntaf iddi ac, yn ffodus ac yn rhyfeddol, yr awdur o’r Rhondda a graddedig Prifysgol Morganwg Rachel Trezise oedd enillydd cyntaf y wobr o drigain mil o bunnoedd, a fyddai’n gweddnewid ei bywyd. Drwy ei benderfyniad diwyro, yn dilyn peth ansicrwydd ynghylch y nawdd, sicrhaodd y byddai modd ail-lansio’r Wobr yn 2014, a’i chynnal yn flynyddol am ugain mil o bunnoedd. Gyda chefnogaeth Prifysgol Abertawe mae’r Wobr wedi ffynnu byth ers hynny gyda Peter Stead fel y Llywydd a’i sefydlodd.

Roedd Gwobr Dylan Thomas, ac mae’r wobr honno’n dal i fod, yn gyswllt unigryw rhwng etifeddiaeth ddiwylliannol arwyddocaol cymdeithas sydd bellach wedi diflannu a byd creadigol yr oedd De Cymru ar un adeg â rhan mor bwysig ynddo. Efallai nad yw ei bodolaeth yn syndod ac ystyried gwreiddiau a breuddwydion Peter Stead. Roedd yno o’r cychwyn cyntaf, yn aros yn eiddgar ac yn benderfynol o ddigwydd, yn yr un modd â’i briodas gariadus yn 1971 ag Elizabeth (née) Hilton a aned yn Llundain, cydweithiwr disglair mewn mathemateg cymhwysol yn Abertawe’r 1960au: yn eu cyfarfyddiad cyntaf, dywedodd Peter wedi i Elizabeth ei holi mai ei faes arbenigol oedd “Terfysgoedd Tonypandy”. Ymatebodd hithau drwy ddweud ei bod yn: “Fyfyriwr y Bydysawd”. Felly, mewn cameo, y ffurfiwyd eu hundeb berffaith, ac fe barhaodd am hanner cant a phump o flynyddoedd.

Mae’n gadael Elizabeth ar ei ôl.

 

Wedi’i ysgrifennu gan Yr Athro Dai Smith FLSW CBE

yn ôl i'r brig