Syr Roger Jones
Trysorydd Cyntaf y Gymdeithas 2010-2012
Cadeirydd y Cyngor, Prifysgol Abertawe; Cadeirydd ZooBiotic Ltd; yn flaenorol Cadeirydd, Penn Pharmaceuticals Ltd.
Gyda thristwch y clywsom yng Nghymdeithas Ddysgedig Cymru am farwolaeth un o’n Chymrodyr Sefydlol, Syr Roger Spencer Jones FLSW. Yn ei theyrnged iddo, dywedodd Llywydd y Gymdeithas, Y Fonesig Athro Elan Closs Stephens:
‘Roedd Syr Roger yn ymchwilydd disglair, yn flaengar ym myd busnes, ac yn arweinydd amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru. Yn ei holl weithgaredd, roedd yn llawn creadigrwydd, egni a chwilfrydedd. Yn fwy na dim, roedd yn uchelgeisiol tros Gymru a dangosodd hynny yn ei arweinyddiaeth o Awdurdod Datblygu Cymru a’r BBC. Roedd yn uchelgeisiol y dylai Cymru arwain y ffordd ym maes newydd bio-therapi. Ei uchelgais tros Gymru oedd wrth wraidd sefydlu Cymdeithas Ddysgedig Cymru a bod yn Chymrodyr Sefydlol. Roedd am weld Cymru yn cael Academi, megis y Gymdeithas Frenhinol, i ddatblygu syniadau a rhannu dysg. Rydym yn cofio amdano ac yn anrhydeddu ei gyfraniad.’