Professor Roger Owen

Etholwyd: 2010 Cymrodyr Cychwynnol

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Peirianneg

Roger J. Owen FREng, FRS, FLSW (1942 – 2020)

 

CYMRAWD-SYLFAENYDD CYMDEITHAS DDYSGEDIG CYMRU.

 

Ganwyd Roger Owen ar 27 Mai 1942 ym mhentref Bynea, ger Llanelli. Evan William a Margaret Owen oedd ei rieni. Roedd ei dad yn ddawnus ym maes mathemateg, ond gwrthodwyd iddo gael addysg estynedig er mwyn gweithio i fusnes y teulu. Gofali ei fam am gartref y teulu, a chynorthwyai â busnes y teulu hefyd.

Cafodd ei addysg gychwynnol yn Ysgol Gynradd Bynea. Pan yn ddeg oed, llwyddodd yn yr arholiad “Eleven Plus” ac aeth i Ysgol Ramadeg Bechgyn Llanelli. Arbenigodd mewn gwyddoniaeth ac astudiodd gwricwlwm yn arwain at arholiadau Lefel O, ac wedi hynny, dwy flynedd yn y chweched dosbarth yn astudio Mathemateg Bur, Mathemateg Gymhwysol a Ffiseg.

Yna, aeth Roger i Goleg Prifysgol Abertawe i astudio Peirianneg Sifil. Dylid nodi mai Roger oedd yr aelod cyntaf o’i deulu i gael cyfle i fynd i’r brifysgol. Wedi Abertawe, astudiodd am radd Ph.D. ym Mhrifysgol Northwestern yn yr UDA, ym maes Mecaneg Ddamcaniaethol a Chymhwysol. Roedd y gwaith hwn, a’i brofiad ôl-ddoethuriaeth cynnar fel Cymrawd Ymchwil Walter P. Murphy, yn ymwneud ag astudio anffurfiad aflinol sylfaenol deunyddiau.

Maes o law, dychwelodd i Abertawe i dderbyn swydd academaidd, ac yno, dan ddylanwad yr Athro Zienkiewicz, datblygodd ddiddordeb mewn dulliau cyfrifiannu. O’r adeg honno ymlaen, mae ei grŵp ymchwil wedi cyfrannu’n amlwg at ddatblygiad strategaethau cyfrifiannu ar gyfer problemau anffurfiad plastigau, ar gyfer astudiaethau deunyddiau sylfaenol ac i’w cymhwyso i strwythurau a chydrannau peirianneg.

Roedd ei waith cynnar yn ymwneud â datblygu dulliau elfennau meidraidd i ddatrys problemau elasto-blastig straen bychan.  Cyflwynodd effeithiau anisotropig ym maes modelu cyfrifiannol platiau a chregyn elasto-blastig ac astudiodd ddadansoddiad platiau a chregyn wedi’u lamineiddio. Yna, aeth ati i astudio triniaeth gyfrifiannol o broblemau elasto-blastig yn ymwneud â straeniau meidraidd. Yna, cafodd modelau difrod eu hymgorffori yn y fframwaith elasto-blastig straeniau meidraidd/  Un estyniad naturiol o fodelu straeniau meidraidd yw’r angen am fanylu’r rhwydwaith addasol i addasu ar gyfer yr anffurfiadau geometrig gros sy’n ymwneud â phroblemau o’r fath. Yn ystod y tair degawd ddiwethaf, mae wedi cyfranogi yn natblygiad dulliau cyfrifiannol priodol ar gyfer efelychu problemau mawr.  Gan gychwyn o waith cynnar ar beiriannau rhannu cof, roedd ei waith ynghylch strategaethau prosesu paralel yn cynnwys gweithredu ar blatfformau cof gwasgaredig. Yna, canolbwyntio Roger Owen ar ddatblygu dulliau elfennau arwahanol o fodelu gronynnau ac efelychu ffenomena aml-doriadau mewn deunyddiau.  Yn fwy diweddar, cyfranogodd mewn ymchwil ynghylch disgrifio meysydd cyfryngau hap mewn modelau elfennau meidraidd stocastig, i geisio egluro ansicrwydd o ran gwasgariad priodweddau deunyddiau a phresenoldeb toriadau mewnol mewn solidau geo-mecanyddol a solidau eraill.

Yn ystod ei yrfa, ysgrifennodd Roger Owen saith gwerslyfr a dros bedwar cant o gyhoeddiadau gwyddonol. Fe wnaeth ei weithgareddau ymchwil arwain at oruchwylio tua 70 o fyfyrwyr Ph.D. Yn ychwanegol, cyflwynodd dros 100 o ddarlithoedd fel Prif Siaradwr ac mewn Sesiynau Llawn. Roedd Roger yn hoff iawn o bob agwedd o gyfarfodydd ymchwil a chynadleddau. Yn ogystal â chynnwys gwyddonol difrifol y digwyddiadau hyn, roedd cyfle anochel i fwynhau prydau da ac ymweliadau â mannau diddorol lleol, heb sôn am drafodaethau hwyr wrth y bar.

 

Mae ymchwil Roger wedi cael ei gydnabod gan nifer o wobrau ac anrhydeddau, a dyma ddetholiad ohonynt:

 

  • Cymrawd Academi Frenhinol Peirianneg, 1996.
  • Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, 2009.
  • Cymrawd-Sylfaenydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, 2010.
  • Aelod Tramor o Academi Beirianneg Genedlaethol yr Unol Daleithiau (NAE), 2011.
  • Aelod Tramor o Academi Gwyddorau Tsiena (CAS), 2011.

 

  • Anrhydeddus Prifysgol Porto, Portiwgal, 1998.
  • Anrhydeddus Ecole Normale Superieure de Cachan, Ffrainc 2007.
  • Anrhydeddus Prifysgol Bolytechnig Catalwnia (UPC), Barcelona, Sbaen 2012.
  • Anrhydeddus Prifysgol Split, Croatia 2016.
  • Doethur er Anrhydedd mewn Peirianneg, Prifysgol Abertawe, y DU, 2016.
  • Anrhydeddus Prifysgol Cape Town, 2019

 

  • Medal Warner T Koiter Cymdeithas Peirianwyr Mecanyddol America (ASME) yn 2003 am “gyfraniadau at faes mecaneg solidau ddamcaniaethol a chyfrifiannol.
  • Medal Aur Prifysgol Split, Croatia, yn 2004, am “gyflawniadau rhyngwladol ym maes mecaneg gyfrifiannol”.
  • Prif Fedal Cymdeithas Mecaneg Gyfrifiannol Sbaen (SEMNI) yn 2005 i “gydnabod ei waith gwyddonol rhagorol”.
  • Gwobr Fawr Cymdeithas Peirianneg a Gwyddor Cyfrifiannol Japan (JCES), 2010.

 

  • Athro Anrhydeddus Prifysgol Amaethyddol Tsieina, Beijing, Tsieina, yn 2014.
  • Athro Anrhydeddus Prifysgol Wuhan, Tsieina, yn 2014.

 

  • Medal Cyfeillgarwch Tsieina, Tsieina, 2016.

 

Yn ogystal â’r cyflawniadau academaidd a restrir uchod, roedd Roger Owen yn entrepreneur llwyddiannus hefyd. Gan gychwyn â dau aelod o staff, fe wnaeth ei gwmni, Rockfield Software Ltd, gynyddu o 35 o weithwyr yn y DU a 10 yn Awstralia erbyn yr adeg yr ymddeolodd fel Cadeirydd yn 2010. Mae Rockfield wedi ennill Gwobr Arloesedd y Frenhines ddwywaith.

 

Mae Roger Owen yn gadael gwraig, Janet (Pugh); cyfarfu â hi pan oedd yn dal yn yr ysgol. Roedd hi’n aelod o deulu blaenllaw o Lanelli oedd yn berchen ar siop ddodrefn fawr Pugh Brothers yn Llanelli. Roedd ganddynt ddwy ferch, Kathryn a anwyd yn 1967 a Lisa a anwyd yn 1970, ac un wyres, Bethan, merch Lisa, a anwyd yn 2002.

 

Roedd Roger yn athletwr brwdfrydig. O’r adeg pan oedd yn 14 hyd nes oedd yn 36, ymroddodd i chwarae rygbi. Chwaraeodd am dros 15 mlynedd ar lefel gystadleuol iawn yng Nghymru, a mesurwyd hynny ar sail dannedd a gollwyd ac esgyrn a dorrwyd! Ar ôl rygbi, cychwynnodd chwarae tennis/ Wedi tennis, aeth ati i chwarae golff. Yn 40 mlwydd oed, cychwynnodd ymddiddori mewn hedfan ac enillodd drwydded peilot preifat. Maes o law, daeth yn gydberchennog Cessna 172 Skyhawk a mwynhaodd yr 20 mlynedd nesaf yn hedfan ledled y DU.

 

Trwy gydol ei yrfa, rhagorodd Roger Owen yn y gwaith o ddatblygu ei faes ymchwil a’i gymhwysiad mewn diwydiant.  Cafodd gydnabyddiaeth ryngwladol eang haeddiannol am y cyflawniadau a nodir uchod.

 

Hywel Thomas a Chenfeng Li.