Yr Athro Sara Elin Roberts
Athro Anrhydeddus yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor
Mae’r Athro Roberts yn ysgolhaig blaenllaw yng nghyfraith a llenyddiaeth Cymru yn yr Oesoedd Canol. Mae ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar ddiwylliant cyfreithiol Cymru yn yr Oesoedd Canol, yn arbennig Cyfraith Hywel, ac mae wedi ysgrifennu sawl monograff dylanwadol ar Gyfraith Hywel, gan gynnwys The Growth of Law in Medieval Wales (2022), a enillodd Wobr Hywel Dda. Mae ganddi hefyd arbenigedd helaeth mewn barddoniaeth Cymraeg Canol, ac roedd yn un o olygyddion y golygiad newydd o farddoniaeth Dafydd ap Gwilym yn 2006. Yn ogystal â’i monograffau, mae wedi cyhoeddi’n eang mewn cyfnodolion blaenllaw ac wedi golygu cyfrolau pwysig o waith ar y cyd ym maes hanes Celtaidd a chyfreithiol. Hi yw golygydd Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ac mae’n aelod o fwrdd golygyddion Transactions of the Royal Historical Society. Yn ogystal, hi yw golygydd adran Geltaidd The Year’s Work in Modern Language Studies. Mae wedi cyflawni swyddi academaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caer, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Abertawe, ond mae hefyd wedi gweithio y tu allan i adrannau academaidd fel ysgolhaig annibynnol