Dr Sarah Hill
Athro Cyswllt – Cerddoriaeth Boblogaidd, Prifysgol Rhydychen.
Mae Dr Sarah Hill yn Athro Cyswllt ac yn Gymrawd yng Ngholeg San Pedr, Prifysgol Rhydychen. Bu’n Gwasanaethu fel Cadeirydd cangen y DU/Iwerddon y Gymdeithas Ryngwladol er Astudio Cerddoriaeth Boblogaidd. Ei gwaith academaidd ar gerddoriaeth boblogaidd Gymraeg yw’r cyntaf o’i fath, a chyfeirir ato’n eang. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio’n bennaf ar hanesyddiaeth cerddoriaeth boblogaidd yr 20fed ganrif. Mae gwaith ac ysgrifau Dr Hill wedi cyfrannu’n sylweddol at ddealltwriaeth fyd-eang o gerddoriaeth boblogaidd Gymraeg.