Yr Athro Syr  Stephen O’Rahilly

Etholwyd: 2019

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Biocemeg, Meddygaeth

Graddiodd Stephen O’Rahilly o Goleg Prifysgol Dulyn â Medal Aur ym maes Meddygaeth, ac mae bellach yn Athro Biocemeg Glinigol a Meddygaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt. Mae’n Gyfarwyddwr Uned Clefydau Metabolaidd MRC, cyd-Gyfarwyddwr Sefydliad Gwyddorau Metabolaidd Wellcome-MRC, Cyfarwyddwr Gwyddonol Canolfan Ymchwil Biofeddygol Caergrawnt y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Ieuenctid, yn Aelod Cysylltiol o Gyfadran yn Athrofa Sanger ac yn un o Gymrodyr Coleg Pembroke.

Mae’r Athro O’Rahilly wedi ymgymryd ag astudiaethau arloesol ym meysydd geneteg gordewdra ac ymwrthedd i inswlin, ac maent wedi cyfrannu at ein dealltwriaeth o reoli a defnyddio cymeriant egni. Mae perthnasedd y gwaith hwn o safbwynt epidemig modern gordewdra yn arwydd o ymrwymiad ei dîm i’r gwaith o drosi ymchwil sylfaenol yn arferion clinigol. Mae’n Brif Archwiliwr portffolio presennol o grantiau sy’n werth £40 miliwn.

Mae ei ymchwil wedi’i gydnabod ag amrywiaeth o Ddoethuriaethau Anrhydeddus a gwobrau, yn cynnwys gwobrau the Rolf Luft, Feldberg a Baillet Latour am gyflawniadau gwyddonol eithriadol ym maes ymchwil biofeddygol er budd iechyd pobl. Mae ganddo dros 500 o gyhoeddiadau, mae’n un o drafodwyr Araith Harvey, yn Gadeirydd Bwrdd Gwyddorau Athrofa Max Planck dros Ymchwil Metabolaidd ac yn Aelod o Fwrdd Gwyddorau Athrofa Francis Crick. Cafodd yr Athro O’Rahilly ei urddo’n farchog yn 2013 am ei gyfraniad at ymchwil meddygol.