Yr Athro Syr Steve Smith
FRSA FAcSS FLSW
Hyrwyddwr Addysg Ryngwladol Llywodraeth EM a Chynrychiolydd Arbennig y Prif Weinidog i Saudi Arabia ar gyfer Addysg, Llywodraeth EM.
Yr Athro Syr Steve Smith yw Hyrwyddwr Addysg Ryngwladol Llywodraeth y DU a Chynrychiolydd Arbennig y Prif Weinidog ar gyfer Addysg yn Saudi Arabia. Cyn hynny bu’n Is-Ganghellor Prifysgol Caerwysg rhwng 2002 a 2020. Mae ei effaith ar y gymuned academaidd yn ymestyn y tu hwnt i’r DU, ac mae ei swydd fel llywydd y corff academaidd byd-eang yn ei faes (Y Gymdeithas Astudiaethau Rhyngwladol) a Phrifysgolion y DU yn tystio i hynny. Cafodd ei urddo’n farchog am ei gyfraniad at addysg uwch ar raddfa leol a chenedlaethol.