Yr Athro Timothy Jones

Etholwyd: 2023

Maes/ Meysydd: Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg a Meddygaeth

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Damcaniaeth Maes Cwantwm

Athro Emeritws a Chymrawd Emeritws Leverhulme, Prifysgol Lerpwl.

Mae Timothy Jones, Athro Emeritws ym Mhrifysgol Lerpwl a Chymrawd Emeritws Leverhulme, wedi gwneud cyfraniadau eithriadol i ddamcaniaeth maes cwantwm a’r modd y cymhwysir hynny i ffiseg gronynnau. Mae’r Athro Jones, sy’n mwynhau cerdded mynyddoedd, yfed gwin, chwarae gwyddbwyll a’r gitâr, hefyd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol at ddamcaniaeth medrydd dellt, adeiladu modelau uwchgymesuredd, ffenomenoleg, cosmoleg, a ffiseg mater cyddwysedig.