Mrs Wendy Sadler

Etholwyd: 2023

Maes/ Meysydd: Diwydiant, Masnach, y Celfyddydau a Phroffesiynau

Pwnc/ Pynciau Arbenigol: Cyfathrebu Gwyddoniaeth

Prif Swyddog Gweithredol, Prifysgol Caerdydd ac Uwch Ddarlithydd, Science Made Simple.

Mae Wendy Sadler yn darlithio ym maes cyfathrebu ac addysg gwyddoniaeth. Drwy ei chyflawniadau mae hi wedi sefydlu enw da iddi hi ei hun yn rhyngwladol fel arweinydd wrth ennyn diddordeb y cyhoedd mewn gwyddoniaeth. Mae hi wedi arwain prosiectau gwerth miliynau o bunnoedd, yn amrywio rhwng newid y canfyddiad o addysg yn yr ystafell ddosbarth a dulliau arloesol o gyrraedd cynulleidfaoedd amrywiol. Mae hi wedi gwneud gwaith ymgynghori â nifer o gyrff cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys cynghorau ymchwil â’r llywodraeth. Mae gwaith Mrs Sadler hefyd wedi llywio polisïau ar addysg ac amrywiaeth mewn STEM.