Ymchwil am Gymru; Ymchwil ar gyfer Cymru
Ymunwch â ni yn ‘Ble nesaf i Astudiaethau Cymreig?’
Ymchwil am Gymru, ar gyfer Cymru yw Astudiaethau Cymreig. Mae’n faes rhyngddisgyblaethol sy’n cwmpasu’r holl adrannau ymchwil. Mae Astudiaethau Cymreig yn archwilio nodweddion diwylliannol, cymdeithasol a ffisegol Cymru, yng nghyd-destunau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae’r digwyddiad yn gyfle i gymryd rhan yn y drafodaeth ar gyfer llywio dyfodol y ddisgyblaeth.
Agenda
12:00-13:00 Cinio a rhwydweithio
13:00-15:00 Cyfle i gael cipolwg ar ymchwil Astudiaethau Cymreig
- Siaradwyr- Yr Athro Helen Fulton FLSW (Prifysgol Bryste), Yr Athro Rhys Jones FLSW (Prifysgol Aberystwyth), Meg Hughes (Medr: Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil)
- Arddangosfeydd yn dangos gwaith gan egin Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar
- Cyfleoedd i ymgysylltu gyda Gwasg Prifysgol Cymru
Mae angen cofrestru i fynychu. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r digwyddiad, cysylltwch â ni drwy e-bostio events@lsw.wales.ac.uk os gwelwch yn dda.