Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod IBERS yn trefnu Cyfarfod Gwyddor Planhigion Cymru 2025, a gynhelir yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar 9-10 Medi 2025. Mae’r digwyddiad yma wedi’i chefnogi gan y Gymdeithas Ddysgedig trwy ein cynllun Cefnogaeth Digwyddiadau i Gymrodyr CDdC.
Bydd y digwyddiad cyffrous hwn yn dod â gwyddonwyr planhigion o bob cwr o Gymru ynghyd i feithrin cysylltiadau, rhannu ymchwil, a thrafod y materion pwysig sy’n llywio dyfodol y maes. Bydd y cyfarfod yn cynnwys:
- Siaradwyr allweddol (i’w cadarnhau) ar themâu fel bioffilia, cadwraeth, cynllunio olyniaeth, ac effaith gymdeithasol
- Sgyrsiau cryno a sesiynau posteri, yn canolbwyntio ar fyfyrwyr PhD ac ymchwilwyr gyrfa gynnar
- Grwpiau trafod ar bolisïau, addysg, cyllido, gyrfaoedd, a dyfodol gwyddorau planhigion
- Rhaglen cyn y cyfarfod sy’n cynnwys teithiau o gwmpas y Banc Hadau Cenedlaethol, yr herbariwm, a’r dolydd ar gyfer y rhai a fydd yn cyrraedd y diwrnod blaenorol
Nod y digwyddiad yw lleihau gweithio’n dameidiog ar draws cymuned gwyddorau planhigion Cymru, meithrin cydweithio, a chreu amgylchedd cynhwysol ac addas i fyfyrwyr PhD lle gall gwyddorau planhigion sylfaenol a chymhwysol ffynnu.
Mae ymchwilwyr, myfyrwyr, addysgwyr ac unrhyw un arall sydd â diddordeb mewn gwyddorau planhigion yn cael ei wahodd i ymuno.
Cofrestrwch drwy’r dolen cofrestri os gwelwch yn dda.