Fe’ch gwahoddir i ymuno â Chymdeithas Ddysgedig Cymru, Academi Frenhinol Iwerddon a Chymdeithas Frenhinol Caeredin ar gyfer symposiwm Cynghrair yr Academïau Celtaidd ar ieithoedd. Yn y digwyddiad hwn, byddwn yn trafod ieithoedd o bob cyfeiriad mewn cynulliad rhyngddisgyblaethol a rhyngwladol.
Bydd y digwyddiad yn dod ag ymchwilwyr, llunwyr polisïau ac ymarferwyr o Gymru, yr Alban ac Iwerddon ynghyd i archwilio’r heriau a’r cyfleoedd cyffredin sy’n ymwneud ag ieithoedd. Ei nod yw ailfywiogi disgyblaethau sy’n canolbwyntio ar ieithoedd, llywio polisi cynhwysol, a dangos gwerth ychwanegol cydweithio trawswladol.
Mae Cynghrair yr Academïau Celtaidd yn dod ag academïau cenedlaethol Cymru, Yr Alban ac Iwerddon ynghyd i annog a hyrwyddo ymhellach cydweithio, cydweithrediad a dysgu a rennir ar draws y tair system academaidd ac ymchwil.
Bydd enwau’r siaradwyr a manylion pellach yn cael eu rhyddhau cyn bo hir.
Rhaglen
10:00-10:15 Cyrraedd
10:15-11:30 Sesiwn banel un: Ieithoedd Celtaidd
- Cefndir cryno ar hanes bob iaith a’i chysylltiadau â diwylliant
- Sefyllfa bresennol yr iaith
- Sefyllfa bresennol polisi cenedlaethol
- Sefyllfa bresennol y ddisgyblaeth mewn academia ac addysg
- Beth mae’r cymunedau sy’n amgylchynu pob iaith yn gallu ei ddysgu oddi wrth ei gilydd?
11:30-11:45 Egwyl
11:45-13:00 Sesiwn banel dau: Ieithoedd y byd
- Sefyllfa astudiaeth ieithoedd modern yng Nghymru/yr Alban/Iwerddon.
- Dyfodol astudiaeth ieithoedd modern yng Nghymru/yr Alban/Iwerddon: sut allwn ni addasu neu newid?
- Tirwedd newidiol yr ieithoedd a siaredir yn y DU.
- Buddion amlieithrwydd.
- Rôl astudiaeth ieithoedd modern mewn cymdeithas amlddiwylliannol.
13:00-13:45 Cinio
13:45-15:00 Sesiwn banel tri: Iaith ac Anabledd
- Y dirwedd academaidd bresennol ynghylch astudiaeth iaith ac anabledd, yn cynnwys myfyrdodau ar gyfathrebu estynedig ac amgen, iaith arwyddion Prydain ac Iwerddon, a datblygiad iaith.
- Sefyllfa polisi cyhoeddus a sefydliadol yng Nghymru, yr Alban ac Iwerddon ar gyfer cynhwysiant ieithyddol.
- Beth allwn ni ei ddysgu o wahanol bolisïau yng Nghymru, yr Alban ac Iwerddon?
15:00-15:15 Egwyl
15:15-16:00 Sesiwn gloi: Ieithoedd a Diwylliant
Hygyrchedd
- Bydd y digwyddiad yn Tŷ Pawb, Wrexham. Am fwy o wybodaeth am hygyrchedd a pharcio ewch i: Cynlluniwch eich ymweliad – Tŷ Pawb
- Nodwch unrhyw anghenion mynediad wrth gwblhau’r ddolen cofrestri, os gwelwch yn dda.
Ffotograffiaeth
- Bydd lluniau’n cael eu tynnu drwy gydol y digwyddiad. Os nad ydych yn dymuno cael eich cynnwys yn y lluniau, rhowch wybod i ni, os gwelwch yn dda.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r digwyddiad neu gydag archebu, cysylltwch â ni drwy e-bostio events@lsw.wales.ac.uk