Ar-lein

Cynghrair yr Academïau Celtaidd: Symposiwm Ieithoedd

29 Ebr, 2026:

10:00 am -

29 Ebr, 2026:

4:00 pm

Archebwch eich tocynnau yma.

Fe’ch gwahoddir i ymuno â Chymdeithas Ddysgedig Cymru, Academi Frenhinol Iwerddon a Chymdeithas Frenhinol Caeredin ar gyfer symposiwm Cynghrair yr Academïau Celtaidd ar ieithoedd. Yn y digwyddiad hwn, byddwn yn trafod ieithoedd o bob cyfeiriad mewn cynulliad rhyngddisgyblaethol a rhyngwladol.

Bydd y digwyddiad yn dod ag ymchwilwyr, llunwyr polisïau ac ymarferwyr o Gymru, yr Alban ac Iwerddon ynghyd i archwilio’r heriau a’r cyfleoedd cyffredin sy’n ymwneud ag ieithoedd. Ei nod yw ailfywiogi disgyblaethau sy’n canolbwyntio ar ieithoedd, llywio polisi cynhwysol, a dangos gwerth ychwanegol cydweithio trawswladol.

Mae Cynghrair yr Academïau Celtaidd yn dod ag academïau cenedlaethol Cymru, Yr Alban ac Iwerddon ynghyd i annog a hyrwyddo ymhellach cydweithio, cydweithrediad a dysgu a rennir ar draws y tair system academaidd ac ymchwil.

Bydd enwau’r siaradwyr a manylion pellach yn cael eu rhyddhau cyn bo hir.

Rhaglen

10:00-10:15 Cyrraedd

10:15-11:30 Sesiwn banel un: Ieithoedd Celtaidd

Mae’r panel hwn yn dwyn ynghyd arbenigwyr ar draws y maes ieithoedd Celtaidd i drafod hanesion, cymunedau, polisïau cenedlaethol ac effeithiau diwylliannol pob iaith. Yn y pen draw, bwriad y sesiwn yw penderfynu beth all y cymunedau sy’n amgylchynu pob iaith ei ddysgu gan ei gilydd. .

Cadeirydd – Yr Athro A G Boyd Robertson: Cadeirydd, Highland NHS Board

Yr Athro Robert Dunbar: Cadeirydd Ieithoedd Celtaidd, Llenyddiaeth, Hanes a Hynafiaethau, Prifysgol Caeredin

Yr Athro Enlli Thomas: Dirprwy Is-ganghellor, Pennaeth Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol, ac Athro Ymchwil Addysg, Prifysgol Bangor

Professor Diarmait Mac Giolla Chriost: Cyfarwyddwr Astudiaethau Ymchwil Ôl-raddedig
Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd

11:30-11:45 Egwyl

11:45-13:00 Sesiwn banel dau: Ieithoedd y byd

Mae’r sesiwn hon yn cynnwys panel amrywiol yn cynrychioli arbenigedd ieithoedd cenedlaethol a rhyngwladol. Gyda’i gilydd, byddant yn ystyried rôl ieithoedd y Byd mewn addysg, cymdeithas ac ymgysylltiad rhyngwladol.

Cadeirydd – Lynn Scarff: Cyfarwyddwr Gweithredol, Academi Frenhinol Iwerddon

Yr Athro Claire Gorrara: Pro Vice-Chancellor (Research and Public Engagement) and Dean, School of Advanced Study, University of London

Karen Ruddock: Cyfarwyddwr, Ieithoedd Ôl-gynradd Iwerddon

Yr Athro Catherine O’Leary: Athro Sbaeneg a Chyd-gadeirydd, Cynghrair Celfyddydau a Dyniaethau’r Alban, Prifysgol St Andrews

Dr Phoebe Teh: Darllenydd mewn Cyfrifiadura Cymdeithasol, Prifysgol Wrecsam

13:00-13:45 Cinio

13:45-15:00 Sesiwn banel tri: Iaith ac Anabledd

Sut allwn ni sicrhau dulliau mwy cynhwysol tuag at iaith a chyfathrebu? Mae’r sesiwn hon yn cynnwys cyfraniadau gan arbenigwyr mewn Iaith Arwyddion Prydain, Cyfathrebu Estynedig ac Amgen (AAC), Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) a hygyrchedd iaith.

Cadeirydd – Dr Christopher Shank: Uwch Ddarlithydd mewn Ieithyddiaeth (Amrywiaeth a Newid Ieithyddol), Prifysgol Bangor

Helen Foulkes: Cyfieithydd Iaith Arwyddion Prydain, Helen Foulkes Translations

Rebecca Day: Ymgeisydd PhD mewn Dwyieithrwydd, Prifysgol Bangor

John Conama: Canolfan Astudiaethau Byddar, Coleg y Drindod, Dulyn

15:00-15:15 Egwyl

15:15-16:00 Sesiwn gloi: Ieithoedd a Diwylliant

Cadeirydd – Yr Athro Sarah Skerratt: Prif Weithredwr, Cymdeithas Frenhinol Caeredin

Yr Athro A G Boyd Robertson: Cadeirydd, Highland NHS Board

Lynn Scarff: Cyfarwyddwr Gweithredol, Academi Frenhinol Iwerddon

Dr Christopher Shank: Uwch Ddarlithydd mewn Ieithyddiaeth (Amrywiaeth a Newid Ieithyddol), Prifysgol Bangor

Hygyrchedd

  • Bydd y digwyddiad yn Tŷ Pawb, Wrexham. Am fwy o wybodaeth am hygyrchedd a pharcio ewch i: Cynlluniwch eich ymweliad – Tŷ Pawb
  • Nodwch unrhyw anghenion mynediad wrth gwblhau’r ddolen cofrestri, os gwelwch yn dda.

Ffotograffiaeth

  • Bydd lluniau’n cael eu tynnu drwy gydol y digwyddiad. Os nad ydych yn dymuno cael eich cynnwys yn y lluniau, rhowch wybod i ni, os gwelwch yn dda.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r digwyddiad neu gydag archebu, cysylltwch â ni drwy e-bostio events@lsw.wales.ac.uk

Archebwch eich tocynnau yma.