Ar-lein ac yn bersonol

Darlith Zienkiewicz 2024

20 Tach, 2024:

4:00 pm -

20 Tach, 2024:

6:00 pm

Y Fonesig Wendy Hall, Cyfarwyddwr Sefydliad Gwyddoniaeth y We ym Mhrifysgol Southampton ac un o awduron Four Internets: Data, Geopolitics, and the Governance of Cyberspace. Yn 2023, penodwyd y Fonesig Wendy i gorff cynghori lefel uchel y Cenhedloedd Unedig ar ddeallusrwydd artiffisial, a gyhoeddodd ei adroddiad ‘Governing AI for Humanity’, ym mis Medi 2024.

‘Nid oes amheuaeth nad yw’r byd yn hynod ddibynnol ar y Rhyngrwyd y dyddiau hyn. Os nad oedd hynny’n amlwg o’r blaen, daethom yn ymwybodol o’n dibyniaeth yn ystod pandemig Covid-19. Hefyd, wrth i’r byd cyfan droi at y Rhyngrwyd i wneud unrhyw beth yn ystod y cyfnodau clo, parhaodd i weithredu, sy’n dyst aruthrol i graffter arloeswyr y Rhyngrwyd am y ffordd y gwnaethant ei dylunio, ymgorffori gwydnwch ynddi a sicrhau ei bod ar gael ar raddfa eang.

‘Ond mae’r Rhyngrwyd yn wynebu bygythiad heb ei ail ac mae ansicrwydd am ei dyfodol cyfan fel system gydgysylltiedig yn fyd-eang, a hynny am lawer o resymau gwahanol. Yn y sgwrs hon byddwn yn archwilio dyfodol y Rhyngrwyd o safbwynt geowleidyddiaeth a llywodraethu data. Byddwn yn dadlau, o’r safbwynt hwn, fod o leiaf pedair rhyngrwyd, mwy efallai, yn hytrach nag un system gydgysylltiedig yn unig. Byddwn yn archwilio pa agweddau ar lywodraethu seiberofod mae’n rhaid i ni eu hamddiffyn fwyaf er mwyn i ni barhau i ddefnyddio isadeiledd technegol y Rhyngrwyd rydym i gyd yn dibynnu arno i gefnogi gwasanaethau’r cwmwl a data, a sut mae hyn i gyd yn datblygu yn oes AI.’