Mae’r Athro Edward Witten, Sefydliad Astudiaethau Uwch, Prifysgol Princeton, ac enillydd Medal Fields 2022 yn traddodi Darlith Nodedig David Olive ar Fai 22ain, 2025..

Mae’r ddarlith yn dathlu fod yr Athro Witten wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
Nid oes angen cyflwyno Edward Witten i’r gymuned ffiseg a mathemateg ddamcaniaethol. Mae ei ganfyddiadau lu a’i fewnwelediadau syfrdanol i ffiseg a mathemateg wedi ysbrydoli, ac yn parhau i ysbrydoli, cenedlaethau o ddamcaniaethwyr. Mae ganddo lawer o anrhydeddau a llwyddiannau, ac mae’r Gymrodoriaeth er Anrhydedd yn cydnabod cyfraniadau mawr Witten.