Ar-lein

Eisteddfod 2025: Ymchwil Tri Munud

7 Awst, 2025:

3:00 pm -

Fedri di esbonio dy ymchwil i’r cyhoedd mewn llai na thri munud? Fedri di wneud hynny gyda dim ond UN sleid? Rho gynnig arni yn ein cystadleuaeth Traethawd Tri Munud!

Trefnir y gystadleuaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ac fe’i cynhelir yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar ddydd Iau, 7 Awst am 3pm ar stondin y Coleg Cymraeg.

Mae’r gystadleuaeth yn agored i unrhyw fyfyriwr israddedig, ôl-raddedig neu ymchwilydd gyrfa gynnar sydd wedi cwblhau, neu sy’n gweithio ar, brosiect neu draethawd ymchwil. Dylid cyfyngu cyflwyniadau i un sleid PowerPoint, a gwahoddir siaradwyr i fod yn greadigol gyda sut maent yn arddangos gwybodaeth ar y sleid hon e.e. defnyddio delweddau neu ddiagramau, yn hytrach na thestun.

Gall Rhwydwaith YGC CDdC ad-dalu cost y tocyn mynediad i’r siaradwyr sy’n cymryd rhan. Rydym hefyd yn falch iawn o fod yn noddi’r wobr o £50 ar gyfer y digwyddiad hwn. Bydd y panel beirniaid yn rhyngddisgyblaethol ac yn cynnwys rhywun o’r gwyddorau cymdeithasol, y gwyddorau a’r dyniaethau.

Dyddiad cau: 7 Gorffennaf 2025