Ar 5 Tachwedd 2024, mae’r UK Young Academy yn gwahodd talent newydd Cymru o’r byd academaidd, diwydiant, meddygaeth, addysg, busnes, y celfyddydau a phroffesiynau eraill i ymuno â nhw yng Nghaerdydd am brynhawn o ddatblygu sgiliau rhwydweithio ac arweinyddiaeth.
Mae’r digwyddiad yma yn digwydd mewn person. Bydd y prynhawn yn dechrau gyda chinio a rhwydweithio gydag aelodau y UK Young Academy, Crwsibl Cymru a Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Bydd cinio yn cael ei ddilyn gan weithdy yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau arwain cryf i ddod yn arweinydd diwydiant yn y dyfodol. Bydd mynychwyr hefyd yn cael y cyfle i glywed gan aelodau o’r UK Young Academy ar eu profiadau o fod yn aelod a sut i ddatblygu cais aelodaeth llwyddiannus ar gyfer yr UK Young Academy.
Pam Mynychu?
- Enhangu eich Rhwydwaith: Cyfarfod ag ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol eraill o bob rhan o’r DU a chydweithio i rannu mewnwelediadau ac arbenigedd ar faterion sy’n bwysig i chi.
- Datblygu eich Sgiliau Arwain: Nod y gweithdy yw rhoi’r offer sydd eu hangen arnoch i ddatblygu eich sgiliau arwain, i’ch grymuso i gymryd mwy o gyfrifoldeb yn eich swydd a thu hwnt.
Agenda
- 12.30pm – 1.30pm: Cinio am ddim a rhwydweithio
- 1.30pm – 3pm: Gweithdy arwain a rhwydweithio
Teithio
Bydd Academi Ifanc y DU yn talu am yr holl gostau teithio sy’n gysylltiedig â mynychu’r digwyddiad, gan gynnwys costau tanwydd, yn unol â’u polisi teithio a threuliau. Os ydych yn bwriadu teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, gallwch brynu’ch tocyn yn uniongyrchol a hawlio drwy dreuliau neu gall yr UK Young Academy archebu’r tocyn drwy eu hasiant teithio. Os yw’n well gennych yr olaf, cysylltwch ag aelod o UK Young Academy drwy membership@ukyoungacademy.org.
Gall Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Cynnar y Cymdeithas Ddysgedig Cymru ddarparu bwrsarïau llety i ymchwilwyr sydd wedi’u lleoli y tu allan i dde Cymru sy’n dymuno mynychu’r digwyddiad hwn. Cysylltwch â ni yn researcherdevelopment@wales.ac.uk am ragor o wybodaeth.
Peidiwch â cholli’r cyfle cyffrous hwn i gysylltu â chyd-ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol o bob rhan o Gymru!