Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru (CDdC) yn gwahodd menywod i ddysgu rhagor am Academi Genedlaethol Cymru a’r hyn y mae bod yn Gymrawd yn ei olygu, yn ogystal â chyfarfod â Chymrodyr presennol sy’n fenywod.
Cymdeithas Ddysgedig Cymru yw Academi Genedlaethol Cymru ar gyfer y Gwyddorau, y Celfyddydau a’r Dyniaethau. Fel elusen, ein cenhadaeth yw ategu’r defnydd a wneir o wybodaeth er budd Cymru.
Mae Cymrodyr y Gymdeithas Ddysgedig ymhlith arbenigwyr mwyaf blaenllaw Cymru ym mhob maes gwybodaeth ac ymchwil. Rydym yn awyddus i weld ychwaneg o fenywod yn cael eu henwebu’n Gymrodyr y Gymdeithas, ac yn y digwyddiad rhwydweithio anffurfiol hwn hoffem wahodd menywod sydd â diddordeb mewn dysgu rhagor am ymuno â Chymrodyr a staff Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Bydd yn ddigwyddiad cyfeillgar a chefnogol ac edrychwn ymlaen at eich croesawu.
Digwyddiad peilot yw hwn, fel rhan o’n Rhwydwaith Menywod – bwriadwn gynnal digwyddiadau tebyg mewn rhannau eraill o Gymru dros y flwyddyn sydd i ddod. Bydd rhagor o fanylion ar gael maes o law.
Cofrestrwch i fynychu am ddim er mwyn i ni gael syniad o niferoedd am luniaeth, os gwelwch yn dda. Bydd manylion ystafell yn cael ei rhannu yn agosach i’r amser.
Os oes gennych gwestiynau neu os hoffech archwilio a yw’r digwyddiad hwn yn addas i chi, mae croeso ichi gysylltu â ni ar: events@lsw.wales.ac.uk