Yn bersonol

Digwyddiad Rhwydwaith Cymrodoriaeth Menywod CDdC

9 Ebr, 2025:

4:30 pm -

9 Ebr, 2025:

5:30 pm

Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn ystyried y syniad o sefydlu Rhwydwaith Cymrodoriaeth Menywod a hoffem eich gwahodd i ymuno â ni i ddechrau’r drafodaeth.

Mae’r rhwydwaith dan sylw wedi cael ei gynnig gan Gymrodyr a’i gefnogi gan y Gymdeithas. Bydd yn cynnig cyfle ichi ddod ynghyd gyda menywod eraill o’r Gymrodoriaeth ar gyfer rhwydweithio a chael cefnogaeth gan gymheiriaid.


Byddwn yn cynnal digwyddiad ‘wyneb yn wyneb’ peilot ar Ddydd Mercher 9 Ebrill, Prifysgol Metropolitan Caerdydd (Campws Llandaf). Bwriadwn gynnal digwyddiadau peilot tebyg mewn rhannau eraill o Gymru dros y flwyddyn sydd i ddod. Bydd rhagor o fanylion ar gael maes o law.


Yn y digwyddiad cyntaf hwn yn Ne Cymru, bydd Cymrodyr yn cael eu gwahodd i drafod a chytuno ar fformat a dyfodol y grŵp hwn.


Bydd y digwyddiad yn cael ei rhannu yn ddau rhan:
• Cyfarfod i Gymrodyr: 4pm am 4.30pm – 5.30pm. Y Gwahoddedigion: Cymrodyr Cymdeithas Ddysgedig Cymru sy’n menywod.
• Sesiwn Agored: 5:30pm-6:30pm. Y Gwahoddedigion: Fenywod sydd â diddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am y Gymdeithas. Byddem wrth ein bodd os byddai Cymrodyr yn fodlon aros ar gyfer yr ail sesiwn hon i gyfarch a siarad â’r rhai sydd â diddordeb mewn Cymrodoriaeth.

Os ydych chi eisiau cofrestru am y sessiwn yma, ebostiwch ni ar events@lsw.wales.ac.uk fel bod gennym syniad o rifau ar gyfer lluniaeth, os gwelwch yn dda. Os nad ydych chi’n Gymrawd ond gyda diddordeb i fynychu’r Sesiwn Agored, cofrestrwch yma os gwelwch yn dda.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, allwch chi gysylltu â ni ar: events@lsw.wales.ac.uk. Bydd manylion ystafell yn cael ei rhannu yn agosach i’r amser.