Ar-lein

‘Making Sense of Microaggressions’

9 Maw, 2023:

1:00 pm -

9 Maw, 2023:

2:00 pm

Mae rhai pobl yn gyndyn i siarad am hil neu ddim yn gwybod ble i ddechrau. Eto i gyd, er mwyn hyrwyddo diwylliant ymchwil cynhwysol, mae angen cynnal sgyrsiau am hil a chael dealltwriaeth o’r hyn sy’n ysgogi hiliaeth mewn bywyd bob dydd. 

Dyma un o’r syniadau allweddol a fydd yn cael eu harchwilio mewn sgwrs ryngweithiol rydym yn ei rhedeg gyda Susan Cousins a Barry Diamond ar gyfer ein Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar. 

Yn seiliedig ar eu llyfr ‘Making sense of Microaggressions’ (2021), mae Susan a Barry yn dadlau bod “microymosodiadau yn ffurfiau o ormes bob dydd sy’n tueddu i fynd heb eu gweld a heb eu cydnabod. Maent yn cynnwys islais cynnil a negeseuon cudd sy’n anfwriadol ac yn fwriadol.”

Bydd y sesiwn awr o hyd hon yn darparu adnoddau i ddatblygu ein cymhwysedd diwylliannol drwy ddysgu sut mae microymosodiadau yn digwydd, eu heffaith a sut i ymdrin â nhw.