Ar-lein

Paneli REF 2029 – gwneud cais i fod yn aelod o banel

3 Maw, 2025:

2:00 pm -

3 Maw, 2025:

3:15 pm

Ydych chi’n meddwl gwneud cais i fod yn aelod o banel REF, ond yn ansicr ynghylch y gofynion? Neu efallai eich bod yn chwilfrydig am yr hyn y mae aelodau panel REF yn ei wneud…

Ymunwch â ni yn y weminar hon, wedi’i threfnu gan Medr, Cymdeithas Ddysgedig Cymru a Phrifysgolion Cymru, sy’n trafod sut i fod yn aelod o baneli asesu REF 2029.

Anelir y sesiwn hon at rai sy’n gweithio mewn sefydliadau yng Nghymru sy’n arbenigo mewn gwaith ymchwil ac sydd am wybod mwy ynghylch sut i ymgeisio i fod yn aelod o banel REF 2029.

Mae paneli’r REF yn chwarae rhan hollbwysig – maen nhw’n dod ag arbenigwyr ynghyd yn eu disgyblaethau sy’n gyfrifol am asesu ansawdd cyflwyniadau ymchwil y DU.

Ar gyfer REF 2029, anogir pobl o bob cefndir i ymgeisio, hyd yn oed os nad ydych chi’n sicr eich bod yn bodloni pob maen prawf. Mae hyn yn cynnwys profiadau y tu allan i’r byd academaidd, gan gynnwys sectorau eraill, gwaith polisi, a phrofiad yn y gymuned, gan gynnwys profiadau bywyd amrywiol a’r rheiny sydd â dealltwriaeth o arferion ymchwil amrywiol, allbynnau, effeithiau ac arferion ymgysylltu.

Yn y weminar, byddwn yn clywed gan siaradwyr o brifysgolion Cymru fu’n ymwneud â REF 2021. Byddant yn rhannu eu profiadau, gan gynnwys y pethau yr hoffent fod wedi gwybod cyn dechrau, a’u cynghorion i rai sy’n ystyried ymgeisio am REF 2029. Byddwch hefyd yn dysgu beth sy’n rhaid i chi ei wneud i ymgeisio, a hefyd yn cael cyfle i ofyn am gyngor y panel mewn sesiwn holi ac ateb.

Cyswylltwch ag ymchwil@medr.cymru am ragor o wybodaeth.