Bydd Cynghrair Academïau Celtaidd yn cynnal cynhadledd yn canolbwyntio ar ddiwylliannau ymchwil ym mhob un o’r gwledydd datganoledig.
Mae gan y Gynghrair Academïau Celtaidd ddiddordeb mewn archwilio sut mae ein hamgylcheddau ymchwilio yn debyg neu yn wahanol o ran eu diwylliant ymchwil. Yn ogystal, sut y gallai pob un o’r gwledydd datganoledig a gynrychiolir ddysgu gan ei gilydd a chydweithio i adeiladu ymchwil wedi ei rannu a diwylliannau arloesol sy’n gadarn a blaengar.
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal wyneb yn wyneb ond yn cael ei ffrydio’n fyw. Cwblhewch y ffurflen archebu i nodi a fyddwch yn bresennol ar y safle neu ar-lein.
Trefn y digwyddiad
10.30am Cofrestru gyda the a choffi
11am Sylwadau cychwynnol a chroeso
11.05am Prif Anerchiad (Siaradwr i’w gadarnhau)
11.30am Panel 1- Uniondeb Ymchwil a Diwylliant Ymchwil
- Maura Hiney, Athro Cyflenwad Uniondeb Ymchwil, Prifysgol Coleg Dulyn
- Rachel Norman, Cadeirydd Diogelwch Bwyd a Chynaliadwyedd, Prifysgol Stirling
- Peter Robertson, Athro yn yr Ysgol Gemeg a Pheirianneg Gemegol, Prifysgol Queens Belfast
- Helen Roberts, Cyfarwyddwr Rhagoriaeth ac Effaith Ymchwil, Prifysgol Aberystwyth
Dan ofal Dr. Siobhán O’ Sullivan, Cyfarwyddwr Gweithredol yr Academi Wyddelig Frenhinol.
12.30pm Egwyl Fer
12.45pm Panel 2- Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn Diwylliant Ymchwil
- Emma Yhnell, Darllenydd a Deon Cyswllt ar gyfer Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Cynhwysiant, Coleg Biofeddygol a Gwyddorau Bywyd, Prifysgol Caerdydd
- Ben Tatler, Deon Pobl, Diwylliant a’r Amgylchedd, Prifysgol Aberdeen
- Linda Oyama, Darlithydd Microbiomeg, Aelod o Academi Ifanc y DU Prifysgol Queens Belfast
- Dr Martin Galvin, Pennaeth Diwylliant Ymchwil, Ymgysylltu ac Effaith, Coleg Prifysgol Cork.
Dan ofal Olivia Harrison, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
1.45pm Cinio
2.30pm Panel 3- Uniondeb Ymchwil yn y Cenhedloedd Celtaidd.
- Grace Mulcahy, Athro Microbioleg a Parasitoleg Milfeddygaeth, Coleg Prifysgol Dulyn
- Alice Dubois, Rheolwr Diwylliant Ymchwil, Prifysgol Queens Belfast
- Louise Bright, Dirprwy Is-Ganghellor Menter, Partneriaethau ac Ymgysylltu, Prifysgol De Cymru
- Anne Anderson, Is-Lywydd Ymchwil, Cymdeithas Frenhinol Caeredin
Dan ofal yr Athro Sarah Skeratt, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Frenhinol Caeredin
3.30pm Sylwadau i Gloi
4pm Cloi’r Digwyddiad