Rydym yn falch i eich gwahodd i ymuno â ni i’n Seremoni Fedalau eleni, a gynhelir nos Fercher 13 Tachwedd yn y Senedd, am 6pm. Noddir y seremoni hon trwy garedigrwydd David Rees AS, a bydd siaradwyr a chyflwynwyr nodedig yn ymuno â ni i ddathlu ein henillwyr.
I ddechrau’r noson, bydd pawb yn eistedd ar gyfer seremoni fedalau, a ddilynir wedyn gan dderbyniad anffurfiol â diodydd.
Diolch i Brifysgol Caerdydd am gymorth ariannol ychwanegol tuag at y digwyddiad hwn, ynghyd â Llywodraeth Cymru a SWIEET am noddi ein medalau.