Yn bersonol

Eisteddfod 2024: Cystadleuaeth Traethawd Tri Munud

9 Awst, 2024:

1:00 pm -

2:00 pm

Bydd y sgil o ddisgrifio ymchwil cymhleth i gyhoedd gyffredinol yn cael ei phrofi mewn cystadleuaeth ‘Traethawd Tri Munud’ yn yr Eisteddfod eleni ym Mhontypridd.

Dere i wylio ymchwilwyr yn cystadlu yn erbyn ei gilydd i gyflwyno eu gwaith ymchwil mewn 3 munud!

Trefnir y gystadleuaeth gan y Coleg Cymraeg a Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Bydd Cymrodorion y Gymdeithas yn cefnogi’r digwyddiad, gan gynnwys Elin Rhys CCDdC, yr Athro Alan Shore CCDdC a Dr Aled Eirug CCDdC. Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn noddi’r wobr am y cyflwyniad gorau.

Darllenwch fwy am y digwyddiad hwn a’r cyflwynwyr yma.

Does dim angen cofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn – dere draw ar y diwrnod! Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost atom: researcherdevelopment@lsw.wales.ac.uk