CYDNABOD ANSAWDD YMCHWIL PRIFYSGOLION CYMRU
Heddiw (12 Chwefror 2013) mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru’n cyhoeddi Recognising the Quality of Research at Universities in Wales, Adroddiad sy’n gwrthddweud y mythau a’r canfyddiadau negyddol cyfredol am berfformiad ymchwil prifysgolion Cymru ac sy’n dangos eu bod yn cyflawni’n uchel o’u mesur yn erbyn safonau cystadleuwyr cenedlaethol a rhyngwladol.
Lluniwyd yr Adroddiad gan un o Gymrodyr Cychwynnol y Gymdeithas ac aelod o’i Chyngor, yr Athro Robin Williams CBE FInstP FLSW FRS. Dywed yr Athro Williams:
Ers dros ganrif mae academyddion o brifysgolion yng Nghymru wedi gwneud cyfraniadau ymchwil sylweddol , yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Heddiw gellid dadlau bod ymchwil yng Nghymru yn uwch nag erioed o ran cyfanswm ac ansawdd. [Cyfieithiad]
Ymhlith yr enghreifftiau y mae’n eu nodi mae:
- y ffaith fod grwpiau o Gymru’n arwain y byd mewn sawl maes gan gynnwys creu ac astudio gwrthfater, modelu rhifyddol strwythurau peirianyddol, niwrowyddoniaeth a deall canser a chlefydau megis Alzheimer’s;
- y twf sylweddol yn y nifer ac amrywiaeth o academyddion o Gymru a etholir i Gymdeithasau Dysgedig nodedig y DU, megis y Gymdeithas Frenhinol, yr Academi Peirianneg Frenhinol, Academi’r Gwyddorau Meddygol, yr Academi Brydeinig ac Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol;
- sefydlu Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2010, i ddangos, arddathlu a lledaenu rhagoriaeth ymchwil ac ysgolheictod yng Nghymru.
Aiff yr Athro Williams yn ei flaen:
Eto i gyd ymddengys bod canfyddiad ymhlith sawl carfan yng Nghymru bod prifysgolion Cymru’n tanberfformio’n ddifrifol o ran crynswth ac ansawdd yr ymchwil. Er y byddai’r mwyafrif o bobl o fewn Addysg Uwch yn cytuno y gellid cryfhau perfformiad ymchwil Cymru a bod rhaid gwneud hynny, mae angen cydnabod y niwed posibl y gall y canfyddiadau negyddol hyn ei wneud i enw da’r sector, ei statws cystadleuol rhyngwladol a’i gallu i gyfrannu at anghenion polisi’r dyfodol. [Cyfieithiad]
Mae’n crynhoi ei ganfyddiadau fel a ganlyn:
Mae dadansoddiad manwl o berfformiad ymchwil Cymru’n dangos, yn wahanol i’r gred boblogaidd, bod ansawdd ymchwil ei phrifysgolion yn mesur yn uchel yn ôl safonau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae adroddiad annibynnol a gomisiynwyd gan BIS yn 2011 yn dangos yn nhermau cyhoeddiadau, cyfeiriadau rhyngwladol a gwerth am arian, bod y DU ymhlith y gwledydd blaenllaw’n rhyngwladol. Mae’r Adroddiad hwn hefyd yn nodi bod Cymru wedi perfformio’n uwch na chyfartaledd y DU mewn blynyddoedd diweddar yn nhermau effaith ei chyhoeddiadau, yn seiliedig ar y nifer o gyfeiriadau. … Yn nhermau cyfraniadau i’r economi a’r gymuned … mae Prifysgolion yng Nghymru’n parhau i berfformio’n well na’r DU mewn sawl maes, gan gynnwys ffurfio cwmnïau deillio a busnesau newydd.M [Cyfieithiad]
Mae’r Adroddiad yn diweddu drwy alw am gyfathrebu’r gwirionedd cadarnhaol hwn yn iawn, yng Nghymru a thu hwnt, ac i’r holl bartïon (y Llywodraeth, y Cyngor Cyllido a’r prifysgolion eu hunain) weithio i barhau â gwelliannau’r degawd diwethaf:
Mae cyfathrebu enw da cynyddol ymchwil yng Nghymru’n gywir yn hanfodol, yng Nghymru ac i’r byd ehangach. Mae canfyddiad yn elfen bwysig o’r hyn sy’n denu’r myfyrwyr a’r staff gorau ac yn ffactor allweddol yn ymateb cyrff rhyngwladol sy’n ffurfio cynghreiriau prifysgolion y byd. Mae’n bwysig i enw da Cymru yn fyd-eang a gall gynorthwyo mewnfuddsoddi a thwf economaidd. Mae siâp a strwythur addysg uwch yn y DU yn newid yn gyflym iawn a cheir heriau anferth o’n blaen os yw Cymru i barhau i wella fel y mae wedi gwneud dros y degawd diwethaf. Gellir cwrdd â’r heriau hyn ond bydd angen i bawb, yn Llywodraeth, CCAUC a’r prifysgolion, ymateb ar frys ac yn fwy nag erioed i barhau i dynnu gyda’i gilydd. [Cyfieithiad]
Yn ei ragair i’r Adroddiad, dywed Llywydd y Gymdeithas, Syr John Cadogan CBE DSc FRSE FRSC PLSW FRS:
“Mae papur yr Athro Williams yn grynodeb ffeithiol ragorol o berfformiad ymchwil ein prifysgolion, gan ddangos, er gwaethaf y tangyllido cymharol, eu bod yn perfformio’n well na’r hyn y gellid ei ddisgwyl. Mae ganddynt hefyd record dda iawn o drosi ffrwyth ymchwil yn fuddiant i’r economi. Mae unrhyw ragoriaeth sy’n bodoli yng Nghymru yn ddyledus i raddau helaeth i’n prifysgolion.
“Serch hynny ni ddylem fodloni â’r hyn y mae’r prifysgolion wedi’i gyflawni. Meddyliwch beth fyddai’n bosibl iddynt ei wneud gyda chyllid yn cyfateb i’r hyn a geir yn Lloegr – neu hanner yr hyn sydd ar gael yn yr Alban. Atgyfnerthwn y llwyddiant!” [Cyfieithiad]