Adolygiad Blynyddol 2020-21

Download Publication

‘Braint o’r mwyaf yw arwain Cymdeithas sydd, yn gynyddol, yn buddsoddi yn ein cenhedlaeth nesaf o arweinwyr a Chymrodyr. Mae ein Rhwydwaith Ymchwil Gyrfa Gynnar wedi ehangu’n gyflym ers ei lansio’r haf diwethaf. Mae’n cynnig cyfleoedd pwysig i ymchwilwyr ar draws Cymru i gyfarfod a chydweithio. Rydym yn ailddyblu ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y Gymdeithas ar draws yr holl weithgareddau hyn. Mae’n hanfodol ein bod ni’n defnyddio’r ystod ehangaf o ddoniau a safbwyntiau wrth i ni wneud ein cyfraniad i Gymru a’r byd.’

Yr Athro Hywel Thomas,
Croeso gan y Llywydd