Deallusrwydd Artiffisial a Chymru

Maes astudio a ddaeth i’r amlwg yng nghanol yr ugeinfed ganrif yw Deallusrwydd Artiffisial, ac mae’n cyfeirio at unrhyw beiriant sy’n dynwared deallusrwydd. Mae AI traddodiadol wedi’i ddylunio i gyflawni tasg benodol ac ymateb i gyfres benodol o fewnbynnau, drwy ddysgu a rhagfynegi yn seiliedig ar ddata.
Fodd bynnag, mae’r sylw o du’r cyhoedd ac yn y cyfryngau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn fwy na ‘heip’; rydym yn wir yn byw drwy foment bwysig yn hanes technoleg. Beth sy’n gwneud y foment hon yn bwysig?