Newid y naratif: Rhoi gwerth ar raddau yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau

Download Publication

Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch canlyniadau cyflogaeth i raddedigion yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau ar 24 Ebrill 2024 yng Nghaerdydd. Trefnwyd y drafodaeth mewn ymateb i naratif pwerus ledled y DU ynglŷn â gwerth ariannol addysg uwch, sy’n tueddu i labelu graddau yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn rhai ‘gwerth isel’ (sy’n costio llawer heb wella rhagolygon gyrfa).

Yn bresennol yn y digwyddiad roedd academyddion, arweinwyr prifysgolion, myfyrwyr, graddedigion, cynrychiolwyr o felinau trafod, cydweithwyr o gyrff cyflogwyr a chydweithwyr o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Mae’r papur hwn yn rhoi crynodeb byr o’r pwyntiau allweddol a godwyd. Bwriedir iddo fod yn adnodd i weinyddwyr prifysgolion, academyddion, myfyrwyr, cyflogwyr, cyflogeion a llunwyr polisïau pan fyddant yn cael sgyrsiau am y mater hwn yn eu sefydliadau eu hunain a thu hwnt.

Pwyntiau trafod allweddol:

• Mae rhagolygon cyflogaeth a chyflog graddedigion yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn debyg, fwy neu lai, i ragolygon cyflogaeth a chyflog y rhai sy’n graddio mewn pynciau eraill, o’u hystyried dros yrfa gyfan.

• Mae’r Arolwg o Ganlyniadau Graddedigion, sef y mesur a dderbynnir o gyflawniad graddedigion, yn giplun a dynnir 15 mis ar ôl graddio. Mae’n rhoi darlun camarweiniol o werth ariannol gradd yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau o’i ystyried dros yrfa gyfan.

• Mae gan raddedigion yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn arbennig y mathau o sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen ar gyflogwyr, fel meddwl yn greadigol ac yn ddadansoddol.

• Mae’r drafodaeth gyhoeddus ynghylch graddau yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn tueddu i ganolbwyntio ar fater gwerth (h.y. cydnabyddiaeth ariannol) i raddedigion unigol, ar draul gwerth
ehangach graddau yn y Celfyddydau a’r Dyniaethau i’r economi a chymdeithas.

• Mae angen i ddisgyblaethau’r Celfyddydau a’r Dyniaethau fod yn fwy effeithiol wrth adrodd stori eu gwerth economaidd a chymdeithasol wrth lunwyr polisïau a’r cyhoedd. Mae hyn yn bwysig am fod canfyddiadau’r cyhoedd yn llywio’r dewisiadau y mae myfyrwyr yn eu gwneud o ran pynciau yn yr ysgol ogystal â’r brifysgol.

Esbonnir y pwyntiau hyn ymhellach yn yr adrannau canlynol.