Cyfrannu at Strategaeth Ryngwladol Cymru

LSW / WCIA
Download Publication

Mae’r Gymdeithas Ddysgedig a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru wedi llunio set o argymhellion a myfyrdodau ar gyfer Strategaeth Ryngwladol ddatblygol Llywodraeth Cymru.

Mewn ymateb i wahoddiad gan y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol a’r Gymraeg, cawsom gynulliad o gynrychiolwyr o rwydweithiau cymdeithas sifil Cymru ac academyddion â diddordeb mewn datblygu rhyngwladol, cydraddoldeb, newid yn yr hinsawdd, hawliau dynol a materion byd-eang eraill.

Mae’r Gweinidog wedi siarad am yr angen i’r Strategaeth Ryngwladol fod yn seiliedig ar werthoedd cryf. Ymatebodd ein cyfranogwyr i’r alwad hon drwy gynnig pedwar gwerth eang:

  • Ymagwedd gynhwysol, gosmopolitan – yn seiliedig ar Gymru’n rhannu ei hunaniaeth gymdeithasol a diwylliannol gref yn rhyngwladol, gan barhau’n agored i ddysgu gan eraill
  • Parch i safonau byd-eang y gyfraith, hawliau dynol, rhyddid, cyfiawnder a chydraddoldeb
  • Cydweithio a chydsefyll gyda chymunedau’n fyd-eang, gan gynnwys cefnogaeth i’r rheini sydd wedi’u hymylud
  • Ymagwedd foesegol gref sy’n gwreiddio’r gwerthoedd eraill i gyd – mae hyn yn cynnwys sut mae Cymru’n gweithredu i gyflawni safonau byd-eang a chyflawni datblygu cynaliadwy

Mae ein hadroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru fanteisio ar y cyfle i ddiffinio strategaeth tymor hir gyda gweledigaeth fydd yn cryfhau safle Cymru’n sylweddol yn rhyngwladol. Dylai’r strategaeth gydnabod y cysylltiadau cynhenid rhwng materion lleol a byd-eang, a dylai Llywodraeth Cymru geisio cydweddu ei pholisïau domestig yn llawn gyda’r Strategaeth Ryngwladol. Bydd ymagwedd gref o ran cynaladwyedd a moeseg gartref yn ogystal ag yn rhyngwladol yn helpu Cymru i fod yn wahanol ac i ffynnu yn y gymuned fyd-eang.

Mae’r adroddiad yn nodi nifer o feysydd ymarfer sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru y gellir eu dathlu’n rhyngwladol, ac a all fod yn rhan o’r pŵer meddal mae Cymru’n ei ymarfer. Mae’r rhain yn cynnwys rhaglen Cymru o Blaid Affrica, cyfraniadau Cymru i heddwch a chysylltiadau rhyngwladol, statws Cenedl Masnach Deg, a’r iaith Gymraeg a diwylliant dwyieithog.

Rydym ni hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru fynd y tu hwnt i ‘werthu’ mentrau sy’n bodoli a gosod meysydd y dylai Cymru ddysgu ganddynt a’u datblygu ymhellach, er mwyn cael ffrwd o gyflawniadau i’w dathlu yn y dyfodol.