Growing Science in Wales
Cafwyd hwb gwerthfawr i ymchwil yng Nghymru yr wythnos hon gyda chyhoeddi erthygl nodwedd yn un o brif gylchgronau gwyddonol y bydScience.
Mae’r erthygl mynediad agored, a gyhoeddir yn Science ddydd Gwener 14 Hydref, yn cynnwys proffil unigryw ac annibynnol o dirwedd wyddonol Cymru ac yn tynnu sylw at rywfaint o’r ymchwil arloesol sydd gan Gymru i’w gynnig ar draws y meysydd gwyddonol. Yn debyg i wledydd eraill sy’n gweld twf gwybodaeth fel elfen bwysig yn eu heconomïau, mae Cymru wedi creu agenda gwyddoniaeth sy’n anelu nid yn unig at ehangu gwyddoniaeth academaidd, ond hefyd at drosi gwyddoniaeth a thechnoleg yn gymwysiadau sy’n bwydo twf economaidd.
Mae’r erthygl yn Science yn bwysig gan ei bod yn tynnu sylw at sector gwyddoniaeth y genedl. Science yw un o brif gylchgronau gwyddonol y byd, gyda 570,400 o ddarllenwyr bob wythnos a safle ar-lein sy’n derbyn 5.6 miliwn o ymweliadau ar draws y byd.
Fel arfer bydd Science yn dewis tri neu bedwar ardal ddaearyddol benodol bob blwyddyn, a dyma’r ail dro iddo ganolbwyntio ar Gymru. Yn 2013, rhoddodd erthygl flaenorol sylw i strategaeth a gweledigaeth Llywodraeth Cymru i wneud gwyddoniaeth yn ganolbwynt economi Cymru drwy greu swyddi ymchwil a busnesau newydd.
(Gweler https://www.sciencemag.org/careers/features/2013/04/science-wales)
Dywedodd yr Athro Peter Halligan, Prif Weithredwr Cymdeithas Ddysgedig Cymru
“Mae’r erthygl yn Science yn rhoi sylw byd-eang amserol i wireddu strategaeth feiddgar a ddechreuwyd yn 2012 i osod ymchwil a’r agenda gwyddonol wrth galon yr hyn sy’n gyrru twf economaidd y genedl.”