Moeseg Ffyniant Cynaliadwy i Bawb – adroddiad

Download Publication

Yn ystod y flwyddyn yn dilyn canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, pan fyddwn ni’n edrych yn ôl ar y cyfraniad mae Cymru wedi’i wneud i heddwch a chyfiawnder rhyngwladol dros y ganrif ddiwethaf, mae’n amserol hefyd i ni edrych ymlaen at y rôl y gall Cymru ei chwarae i ymdrin â heriau newid amgylcheddol a’r anghydraddoldebau cynyddol sy’n wynebu ein canrif newydd.

Gyda chyflwyno Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae gan Gymru bellach lwyfan newydd a neilltuol y gall cymdeithas sifil a sefydliadau cyhoeddus y wlad adeiladu arno i gyfrannu at agenda byd-eang y Cenhedloedd Unedig (CU) i greu gwell dyfodol i bobl ac i’r blaned.

Drwy ein gwaith yng Nghymru a chyda phartneriaid, mae gennym gyfle gwirioneddol i wella dealltwriaeth a llywio datblygiad Nodau Cynaliadwy y CU. I ystyried y cyfle hwn, cynullodd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Symposiwm tri diwrnod i wahoddedigion yng Ngholeg Madlen, Caergrawnt ar 11-13 Medi 2018, a ddaeth â meddylwyr ac ymarferwyr blaenllaw o Gymru a’r byd ynghyd i drafod thema moeseg ffyniant cynaliadwy i bawb.

Mae’r papur hwn yn myfyrio ar y trafodaethau hynny, natur yr heriau a wynebwn, y newidiadau sydd angen ymdrin â hwy, a’r rôl y gallai Cymru ei chwarae yn hyn oll.