Ymateb Cymdeithas Ddysgedig Cymru i’r Ymgynghoriad ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26
Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y cyfle a gafwyd gan Bwyllgor Cyllid y Senedd i gynnig sylwadau cyn cyhoeddi cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26.
Gallai’r sefyllfa ariannol arbennig o heriol o flaen prifysgolion Cymru ar hyn o bryd yn beryglu cyfraniad sylweddol ymchwil ac arloesi i dwf economaidd y ceir angen mawr amdano. Mae pob £1 a fuddsoddir ym Mhrifysgolion Cymru yn dychwelyd £13 i’r cyhoedd. Yn dilyn creu Medr, ochr yn ochr â setliad cyllideb Llywodraeth Cymru, mae hi nawr yn foment unigryw nid yn unig i ymdrin â materion sydd angen sylw ar unwaith, ond hefyd i fuddsoddi mewn ymagweddau uchelgeisiol newydd at y system addysg drydyddol ac ymchwil yng Nghymru. Drwy wneud hynny gellir sicrhau bod gan genedlaethau’r presennol a’r dyfodol system gwybodaeth ac ymchwil gadarn i ddatrys heriau lleol a byd-eang.