SCIENCE IN WALES

Cafodd y sector addysg uwch yng Nghymru hwb sylweddol pan gyhoeddwyd erthygl nodwedd yn un o gyfnodolion gwyddoniaeth pwysicaf y byd, yn edrych ar y dirwedd wyddonol yng Nghymru.

Mae’r erthygl, a gyhoeddwyd yn ddiweddar yng nghyfnodolyn tra dylanwadol Science yn ddiweddar, yn rhoi cyfle unigryw i arddangos ar raddfa fydeang ddetholiad o’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig ym myd gwyddoniaeth, tra’n rhoi sylw canolog i agenda gwyddonol Llywodraeth Cymru a’r rôl holl bwysig y mae prifysgolion Cymru yn ei chwarae yn y strategaeth uchelgeisiol hon.

Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd yr erthygl o ran codi proffil prifysgolion Cymru a sector wyddoniaeth y genedl. Mae Science yn un o brif gyfnodolion gwyddoniaeth y byd, a chyda thua 700,000 o ddarllenwyr a thros 10 miliwn o bobl yn gallu manteisio ar ei fersiwn ar-lein ar draws y byd, gallai’r sylw a gynhyrchir gan erthygl o’r fath fod yn amhrisiadwy. Y drefn arferol yw bod y cyfnodolyn yn rhoi sylw i dair neu bedair ardal ddaearyddol yn unig bob blwyddyn, a hon yw’r erthygl gyntaf a gyhoeddwyd ar un o ranbarthau datganoledig gwledydd Prydain.

Gellir darllen yr erthygl ar-lein trwy wasgu yma: SCIENCE IN WALES