Yn bersonol

Cwrdd â Chymdeithas Ddysgedig Cymru

7 Awst, 2025:

11:30 am -

8 Awst, 2025:

12:30 pm

Lloeren, Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Ymunwch â Chymdeithas Ddysgedig Cymru yn yr Eisteddfod!

Ydych chi’n bwriadu ymweld â’r Eisteddfod yn Wrecsam ym mis Awst? Fe’ch gwahoddir yn gynnes i ymuno â ni yn ein digwyddiad galw heibio ‘Cwrdd â Chymdeithas Ddysgedig Cymru’ yn y Lloeren yn y Pentref Gwyddoniaeth rhwng 11:30am-12:30pm.

Bydd y digwyddiad anffurfiol yn gyfle i gwrdd â staff a Chymrodyr CDdC ynghyd ag unigolion a sefydliadau eraill sy’n ymddiddori mewn ymchwil a’i dylanwad yng Nghymru.

Sesiwn galw heibio yw hon ac nid oes unrhyw reidrwydd i gofrestru. Fodd bynnag, byddem yn gwerthfawrogi cael syniad o’r niferoedd ar gyfer lluniaeth. Mwy o wybodaeth a chofrestri yma.