Ymgysylltu Rhyngwladol
Rydym yn cynrychioli Cymru yn y system wyddoniaeth ac ymchwil ryngwladol drwy nifer o fentrau gwahanol.
Cynghrair yr Academïau Celtaidd
Mae Cynghrair yr Academïau Celtaidd yn bartneriaeth rhwng Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymdeithas Frenhinol Caeredin ac Academi Frenhinol Iwerddon. Ei nod yw dod ag academïau cenedlaethol Cymru, yr Alban ac Iwerddon at ei gilydd i hyrwyddo ac annog cydweithredu, i weithio mewn partneriaeth ac i rannu profiadau ar draws y tair system academaidd ac ymchwil.
ALLEA
Rydym yn aelod o ALLEA, Ffederasiwn Academïau’r Gwyddorau a’r Dyniaethau Ewrop,sy’n cynrychioli 60 o academïau ar draws tua 40 o wledydd yn Ewrop a thu hwnt. Mae ALLEA yn dod â gwyddoniaeth, polisi a chymdeithas at ei gilydd, ac yn hyrwyddo gwyddoniaeth fel rhywbeth sy’n dod â budd i bobl ar draws y byd. Rydym yn sicrhau bod Cymru yn cael ei chynrychioli mewn trafodaethau Ewropeaidd pwysig, ac yn darparu cyngor arbenigol i helpu i lywio polisïau Ewropeaidd.
Ein Cymrodyr
Mae ein Cymrodoriaeth yn cynnwys aelodau o bob rhan o’r byd, gan gynnwys Seland Newydd, Hong Kong a Gogledd America. Rydym yn darparu cyfleoedd i aelodau talentog a dylanwadol o’n cymuned diaspora i roi rhywbeth nôl i Gymru mewn ffordd ystyrlon.
Astudiaethau Cymreig
Mae ein rhaglen Astudiaethau Cymreig yn rhyngwladol hefyd, ac yn canolbwyntio’n benodol ar ddenu ymchwilwyr o ar draws y byd sydd â diddordeb mewn astudio yng Nghymru, er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o Gymru ar lefel ryngwladol.