Mewn cydweithrediad â Chymdeithas Ddysgedig Cymru, daeth y digwyddiad hwn ag arbenigwyr o’r byd academaidd, diwydiant a llywodraeth ynghyd i fynd i’r afael â chyfleoedd a heriau gwyddonol a thechnegol yng Nghymru.
Gweithiodd y Gymdeithas Frenhinol ar y cyd â Chymdeithas Ddysgedig Cymru i gyflwyno Creu Cysylltiadau yng Nghymru 2026 – cynhadledd gyda phwyslais ar ymchwil ac arloesedd yng Nghymru. Daeth y digwyddiad hwn ag arbenigwyr o’r byd academaidd, diwydiant a llywodraeth ynghyd i fynd i’r afael â chyfleoedd a heriau gwyddonol a thechnegol yng Nghymru.
Yn y digwyddiad hwn cafwyd gweithdai a thrafodaethau bord gron ar amrywiaeth o bynciau fel polisi, diwydiant ac addysg. Yn ogystal, roedd y digwyddiad hwn yn cynnwys anerchiad amser cinio ac amrywiol o gyfleoedd i rwydweithio a ddaeth â chynrychiolwyr ynghyd o bob rhan o’r gynhadledd.