A cartoon image of Aneurin Bevan and Megan Lloyd George

Medalau a Gwobrau: Canllawiau a Rheoliadau

Rydym wedi ymrwymo i dryloywder llawn yn ein holl brosesau.  Bydd y dudalen hon yn eich cysylltu â’r holl ganllawiau, dogfennaeth a ffurflenni fydd yn eich helpu i gyflwyno eich enwebiad.

Mae ein holl fedalau a gwobrau yn agored i’r sawl y mae eu gwaith yn cael effaith ar ddatblygu gwybodaeth a/neu rym ymchwil ac arloesi.  Rydym yn dathlu pobl sydd â chysylltiad â Chymru – sydd naill ai’n byw yng Nghymru, wedi’u geni yng Nghymru neu sydd â rhyw gysylltiad perthnasol arall megis cyflogaeth.

Gellir gwneud unrhyw elfen o’r enwebiad hwn yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Cewch ei lenwi yn yr iaith sydd orau gennych.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein medalau a gwobrau, cysylltwch â ni ar medals@lsw.wales.ac.uk , os gwelwch yn dda.