Mae ymchwil Astudiaethau Cymreig wedi bod yn darparu gwybodaeth i’r cyhoedd o flaen etholiad sy’n debygol o fod y mwyaf trawsnewidiol yng Nghymru ers dechrau datganoli.
Ymunwch â Rhwydwaith Astudiaethau Cymreig ar gyfer ôl-drafodaeth yn dilyn Etholiad y Senedd 2026. Rydym yn gwahodd arbenigwyr Etholiad Cymru blaenllaw i rannu eu dadansoddiad, gan drafod sut mae’r cyfryngau wedi adrodd ar yr etholiad, y data pleidleisio, a beth i’w ddisgwyl nesaf.
Siaradwyr:
- Cadeirydd: Dr Anwen Elias, Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, Prifysgol Aberystwyth
- Yr Athro Stephen Cushion FLSW, Yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, Prifysgol Caerdydd
- Yr Athro Laura McAllister FLSW, Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd
- Dr Bettina Petersohn, Astudiaeth Etholiad Cymru 2026, Prifysgol Abertawe
Cefnogir Rhwydwaith Astudiaethau Cymreig gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru.