Cynllun Symudedd Ymchwilydd Gyrfa Cynnar Cymru-Iwerddon 2026-2027

Dyddiaday Pwysig

9 Medi 2026

Ceisiadau yn Agor

17 Hydref 2026

Ceisiadau yn Cau am 5pm

Chwefror 2027

Cyhoeddiad Canlyniad

29 Hydref 2027

Dyddiad Gorffen ar gyfer Prosiectau

31 Tachwedd 2027

Adroddiadau Terfynol

Cyllidwyr: Llywodraeth Cymru

Mwyafswm gwerth y grant: £2,000

Ceisiadau yn agor: 9 Medi 2026

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 17 Hydref 2026, 5pm

Cyhoeddiad canlyniad: Diwedd mis Chwefror 2027

 

 

Mae Cynllun Symudedd Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Cymru-Iwerddon (YGC) yn grant teithio a ddyfernir i ymchwilwyr gyrfa cynnar rhagorol sy’n gweithio ym maes y dyniaethau, y gwyddorau cymdeithasol, neu’r gwyddorau. Ei bwrpas yw cefnogi teithiau ymchwil byr dramor i helpu ymchwilwyr i gynnal ymchwil sylfaenol, meithrin cydweithrediadau a rhwydweithiau newydd, cael mynediad at offer neu hyfforddiant sydd ar gael yn Iwerddon, a datblygu partneriaethau sy’n cefnogi ceisiadau cystadleuol Horizon Europe neu geisiadau cydweithredol rhyngwladol mawr eraill.

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i ddarparu gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru, mae’r cynllun yn ategu llinyn Iwerddon-Cymru presennol cynllun Grantiau Charlemont a weinyddir gan yr Academi Ríoga Wyddelig.

Beth y gall y grant ei gefnogi?

Gall ymchwilwyr wneud cais am hyd at £2,000 i gefnogi ymweliad byr ag Iwerddon, o rhwng wythnos a chwe wythnos, gyda nod ymchwil clir a chanlyniad gweladwy erbyn diwedd y gwaith a ariennir. Anogir ymgeiswyr i amlinellu sut y bydd yr ymweliad yn cryfhau partneriaethau ac yn cyfrannu at geisiadau cydweithredol rhyngwladol yn y dyfodol.

Mae cyllid ar gael ar gyfer ymchwil o dan y meysydd polisi a amlinellir yn Natganiad a Rennir Iwerddon-Cymru 2030: Ymgysylltiad Gwleidyddol a Swyddogol; Hinsawdd, Ynni, Amgylchedd a Chynaliadwyedd; Economi a Masnach; Addysg, Ymchwil ac Arloesi; Diwylliant, Iaith a Threftadaeth; a Chymunedau, Alltudion a Chwaraeon.

Pwy all wneud cais?

Rhaid i ymgeiswyr:

  • Fod yn hunangyflogedig neu’n gweithio’n annibynnol yng Nghymru gydag ymrwymiad amlwg i ymchwil
  • Ddal cytundeb cyflogaeth dros dro neu barhaol gyda sefydliad cyflogi yng Nghymru sy’n cwmpasu cyfnod llawn y grant
  • Fod ar gyfnod gyrfa gynnar (fel arfer llai na saith mlynedd o brofiad ymchwil neu brofiad proffesiynol perthnasol, gydag ystyriaeth i seibiannau gyrfa)

Sylwer: nid yw myfyrwyr PhD yn gymwys ar gyfer y cynllun grant hwn.

Beth rydym yn chwilio amdano

Cyn gwneud cais, sicrhewch eich bod yn darllen y dogfennau Galwad canlynol:

Rhaid cyflwyno ceisiadau drwy ein ffurflen ar-lein, y gellir cael mynediad ati drwy’r ddolen isod. Y dyddiad cau i gyflwyno cais yw 17 Hydref 2026 am 5pm. Ni fydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn yn cael eu hystyried.