Ar-lein

Creu Seilwaith Ymchwil Iaith Gymraeg: Mynediad, Hyder, a’r Llwybr i Addysg Uwch

21 Medi, 2026:

10:00 am -

21 Medi, 2026:

11:30 am

Gydag uchelgais i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae sicrhau bod modd gweld a defnyddio’r iaith ar hyd a lled addysg uwch ac ymchwil yn ganolog i ddyfodol Cymru. Ac eto, er gwaethaf niferoedd cynyddol o blant yn mynd i mewn i addysg cyfrwng Cymraeg, mae bwlch yn dal i fod rhwng ysgolion a phrifysgolion, sydd wedi’i ddylanwadu gan hyder, safonau a chefnogaeth sefydliadol dros ddefnyddio Cymraeg yn broffesiynol ac yn academaidd.

Mae’r weminar hon yn dwyn ynghyd ymchwilwyr, llunwyr polisi, a chyrff sector i edrych ar y bwlch hwnnw o sawl ongl. Bydd siaradwyr yn ystyried sut mae cywilydd ieithyddol ynghylch Cymraeg “cywir” yn effeithio ar fyfyrwyr ymhell cyn iddynt gyrraedd addysg uwch, sut mae’r gagendor rhwng siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf ac ail iaith yn creu rhwystrau i’r rhai sy’n mynd i mewn i astudiaeth cyfrwng Cymraeg drwy’r llwybr ail iaith, a sut mae’r grymoedd hyn yn gweithio ym meysydd fel STEM, lle mae ymchwil cyfrwng Cymraeg yn parhau i fod yn anghyffredin ond yn cael ei meithrin yn weithredol. Bydd y sesiwn hefyd yn ystyried y seilwaith polisi a sefydliadol sy’n llywio’r dirwedd hon, o gyfrifoldebau strategol Medr dros addysg drydyddol ac ymchwil cyfrwng Cymraeg, i waith uniongyrchol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cefnogi dysgwyr ac ymchwilwyr i astudio a gweithio’n hyderus yn y Gymraeg.

Wedi’i cadeirio gan Yr Athro Enlli Thomas FLSW, ymhlith y siaradwyr bydd Dr Katharine Young, Dr Owain Beynon, Dr Gwennan Higham, Dr Bedwyr ab Ion Thomas (Medr), a Dr Manon James (Coleg Cymraeg Cenedlaethol).

Bydd y sesiwn yn cynnwys cyflwyniadau byr gan bob siaradwr, ac yna sesiwn holi ac ateb agored i ddilyn. Mae croeso i gyfranogwyr gyflwyno cwestiynau ymlaen llaw.