Adis Sehic
Mae Adis yn Uwch Swyddog Polisi Cyhoeddus yn CDdC. Mae’n gweithio’n agos gyda’r Pennaeth Polisi Cyhoeddus i lywio gwaith y Gymdeithas ym maes cyngor polisi a materion cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys arwain y gwaith o sefydlu Mecanwaith Cyfnewid Gwybodaeth newydd CDdC, gyda’r nod o gefnogi a chryfhau’r defnydd o dystiolaeth wrth lunio polisïau yng Nghymru.
Ymunodd Adis â’r Gymdeithas yn 2026 o Lloyds Banking Group, lle bu’n gyfrifol am feithrin cysylltiadau â rheoleiddwyr a datblygu strategaethau polisi sy’n ymwneud â thaliadau defnyddwyr.
gan helpu i arwain ar ymgyngoriadau, astudiaethau marchnad a chynigion polisi gyda rheoleiddwyr gwasanaethau ariannol. Cyn hynny, bu Adis yn gweithio fel Rheolwr Polisi yn y Work Rights Centre, lle’r oedd yn arwain swyddogaeth materion cyhoeddus ac eiriolaeth y sefydliad gyda rhanddeiliaid allanol, gan gynnwys Llywodraeth y DU, aelodau o’r Senedd, a chydweithwyr yn y trydydd sector a’r sector preifat.
Yn ystod ei gyfnod yn y rôl hon, arweiniodd nifer o ymgyrchoedd llwyddiannus i godi ymwybyddiaeth o gamfanteisio ar weithwyr mudol yn y DU, gan helpu i lunio ymatebion polisi a oedd yn cynnig gwell amddiffyniad i’r rhai oedd mewn perygl, yn ogystal â chryfhau’r trefniadau ar gyfer gorfodi rheolau’r farchnad lafur. Yn fwyaf nodedig, roedd hyn yn cynnwys rhoi tystiolaeth lafar i Bwyllgor Garddwriaeth Tŷ’r Arglwyddi a Phwyllgor Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015 Tŷ’r Arglwyddi.
Astudiodd Adis y Gyfraith yn King’s College, Llundain, ac mae’n gyfreithiwr mewnfudo cymwys nad yw’n ymarfer ar hyn o bryd, ar ôl cymhwyso’n flaenorol yn Mishcon de Reya LLP. Mae hefyd wedi cwblhau cwrs ôl-raddedig mewn Busnes a Hawliau Dynol ym Mhrifysgol Bergen.
Mae Adis yn siarad Serbo-Groateg yn rhugl ac, yn ei amser hamdden, mae’n hoff o heicio, coginio a gwrando ar bodlediadau s hanes.
Diwrnodau gwaith arferol Adis yw dydd Llun i ddydd Gwener. Gellir cysylltu ag ef drwy e-bost ar asehic@lsw.wales.ac.uk.